Mae taleithiau a thiriogaethau Awstralia yn adrannau gweinyddol ffederal yn Awstralia sy'n cael eu rheoli gan lywodraethau rhanbarthol. Y rhain yw'r ail lefel o lywodraethu rhwng y llywodraeth ffederal a llywodraethau lleol.
Mae'r taleithiau yn endidau hunanlywodraethol, er nad oes ganddynt sofraniaeth lwyr. Mae ganddynt eu cyfansoddiadau eu hunain, yn ogystal â deddfwrfeydd, adrannau gweinyddol, a rhai awdurdodau sifil (e.e. barnwriaeth a heddlu).
Yn ymarferol mae'r tiriogaethau yn debyg iawn i'r taleithiau, ac yn gweinyddu polisïau a rhaglenni lleol. Fodd bynnag, maent yn israddol yn gyfansoddiadol ac yn ariannol i'r llywodraeth ffederal ac felly nid oes ganddynt wir sofraniaeth.