Grŵp o systemau, traddodiadau a chredoau lle mae gwybodaeth o safle ymddangosiadol planedau a lloerenau'r gofod i'w weld yn ddefnyddiol wrth geisio deall a deh
| Enghraifft o: | superstition, branch of pseudoscience, difyrwaith |
|---|---|
| Math | ffugwyddoniaeth, white magic |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws y BNCF | 1257 |


Grŵp o systemau, traddodiadau a chredoau lle mae gwybodaeth o safle ymddangosiadol planedau a lloerenau'r gofod i'w weld yn ddefnyddiol wrth geisio deall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaeth person yw sêr-ddewiniaeth neu astroleg (Groeg: ἄστρον, ἄστρου ástron, ástrou "seren" + λόγος, λόγου lógos, lógou, "astudiaeth").
Gelwir person sy'n ymarfer sêr-ddewiniaeth, yn sêr-ddewin neu'n astrolegydd. Mae cofnodion o'r arfer hwn yn mynd nôl i tua'r 3 CC. Ym Mesopotamia a'r Hen Aifft roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisio darogan y dyfodol.
Datblygodd seryddiaeth yn yr 17eg a'r 18g o'r hen wyddoniaeth a elwid yn astroleg. Seryddiaeth yw'r astudiaeth (parchus a gwyddonol) o'r gofod. Ond mae hen wyddoniaeth yr astrolegydd yn llawer mwy niwlog, cyfrin a heb ei dderbyn gan y byd gwyddonol modern. Mae'n perthyn yn agos at ddewiniaeth, yr horosgop, cyfriniaeth, ofergoeliaeth a darogan y dyfodol.
Er hyn, mewn holiadur yn 2005, dywedodd 25% o Americanwyr, 25% o Ganadiaid, a 24% o Brydeinwyr eu bod yn credu ynddo.[1] Bu Madam Sera ar Radio Cymru yn mynd drwy rannau o'r horosgop. Fe welir hefyd ddamcaniaethau bron ym mhob un o'r papurau tabloid yn ddyddiol. Canodd Tecwyn Ifan am ofergoeliaeth.
Mae sêr-ddewiniaeth dwyreiniol yn cydnabod dylanwad yr awr Sidydd (ymhlith unrhyw un o 12 o gyfnodau cyfartal yn ystod y dydd - 2 awr yr un) pan fo person yn cael ei eni a phob un yn gysylltiedig ag un o 12 anifail. Y drafferth, wrth gwrs, yw fod angen gwybod yr union amser geni (o ran lleoliad yr haul):
Mae'rmser safonol yn dibynnu ar y parth amser a hydred o leoliad geni.
I berson a anwyd yng Nghaerdydd, eu harwydd Sidydd fesul awr yw:
| amser haf |
amser y gaeaf |
|
|
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.