Pennod neu adran o'r Corân, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid yw Swra.[1] Ystyr lythrennol y gair Arabegsûrah yw "rheng, palisâd." Er mai "pennod" yw'r gair a arferir i'w gyfieithu nid yw'r Mwslemiaid yn ei ystyried felly oherwydd eu bod yn credu bod y Corân yn gyfanwaith perffaith, heb raniadau. Ceir 114 swra yn y Coran awdurdodedig ond ym mlynyddoedd cynnar Islam ceid peth amrywiaeth yn eu nifer a'u cynnwys. Ceir tri neu ragor o "benillion" (âya) ym mhob swra. Credir eu bod wedi eu cyfansoddi naill ai ym Mecca neu ym Medina, ac fe nodir hyn ar ddechrau pob swra mewn rhai argraffiadau o'r Corân. Nid ydynt wedi eu trefnu'n gronolegol, fel yn achos llyfrau'r Beibl, ond yn hytrach yn ôl ei gynnwys.
Sura 5, âya 12-13; llawysgrif o'r Corân a gopïwyd ym Moroco yn y 13eg ganrif
Mae'r swra gyntaf, Al-Fâtiha, yn fath o weddi agoriadol sy'n crynhoi credo'r Mwslim. Yna daw cyfres o swrâu cymharol hir sy'n ymwneud â chyfraith a dyletswyddau. Mae gweddill y swrâu, o rif 36 Sûratu Yâ-sîn ymlaen, yn tueddu i fod yn fyrrach o lawer ac yn fwy telynegol a chyfriniol eu naws; fe'u gelwir yn Rub'u Yâ-sîn a cheir argraffiadau ohonynt ar wahân dan yr enw hwnnw. Mae enwau'r swrâu yn fymryn mwy diweddar na'r testunau eu hunain ac yn tarddu o ganrif gyntaf yr Hegira, yr oes Islamaidd. Mae ystyr rhai o'r enwau yn dywyll (rhif 7, 8, 11, 15, 20, 31, 34, 36, 46, 47, 52, 106). Egyr pob swra namyn un (rhif 9) â'r basmala, sy'n fath o weddi neu alwad ar Dduw; Bismil Lâhi r-Rahmâni r-Rahîm, "Yn Enw Duw, y Maddeuol, y Trugarhaol".
Zeinab Abdelaziz (cyf.), Le Qur'ān / et la traduction en langue française du sens de ses versets (Tripoli, 2002). ISBN 9959280306
François Déroche, Éléments d'une histoire du Coran (Paris, 2005; arg. newydd, Tunis, 2006). ISBN 9973196708
Saïd M. Laham (cyf.), Le Saint coran[:] Rub'u Yâ-sîn (Beirut, 1995).
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.