Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - A FiAwdur | Carl Clowes |
---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
---|
Gwlad | Cymru |
---|
Iaith | Cymraeg |
---|
Dyddiad cyhoeddi | 03/10/2016 |
---|
Argaeledd | Ar gael |
---|
ISBN | 9781784611576 |
---|
Hunangofiant Carl Clowes yw Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - A Fi a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Mae Carl Clowes yn adnabyddus yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ei frwydrau dros yr iaith ac yn sylfaenydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.
Daeth yn Gadeirydd sylfaenol Dolen Cymru, y mudiad fu'n gyfrifol am adeiladu pont rhwng Cymru a Lesotho ers 1985 y ddolen gyntaf o'i fath yn y byd. Bellach, mae'n Is-gennad Anrhydeddus Lesotho yng Nghymru. Yn Anrhydeddau 2012, cafodd O.B.E. am wasanaethau i'r gymuned ar Ynys Môn. Yn ymgyrchydd brwd yn erbyn Wylfa B a wedi llunio 'Maniffesto Môn yn sicrhau gwaith cynaliadwy ar Ynys Môn'. Bu'n ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Maldwyn yn 1979, 1983 ac 1987. Mae'n falch iawn o'i deulu a'i blant - mae dau ohonynt yn aelodau o grŵp y Super Furry Animals.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau