Un o awdurdodau unedol yr Alban yw Stirling (Gaeleg yr Alban: Sruighlea). Y ganolfan weinyddol yw tref Stirling, ac mae'r boblogaeth tua 85,000.
Mae'n ffinio â Falkirk, Perth a Kinross, Argyll a Bute, Dwyrain Swydd Dunbarton, Gorllewin Swydd Dunbarton a Swydd Clackmannan. Ffurfiwyd yr awdurdod yn 1996, yn dilyn ffiniau ardal Stirling o hen awdurdod Central. Mae'n cyfateb i'r rhan fwyaf o hen Swydd Stirling, heblaw Falkirk, a de-orllewin hen Swydd Perth.
Prif drefi a phentrefi