Steve Hansen |
---|
|
Ganwyd | 7 Mai 1959 Invercargill |
---|
Dinasyddiaeth | Seland Newydd |
---|
Alma mater | - Taieri College
|
---|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
---|
Pwysau | 92 cilogram |
---|
Gwobr/au | Knight Companion of the New Zealand Order of Merit, Cydymaith Urdd Teilyngdod Seland Newydd |
---|
Chwaraeon |
---|
Tîm/au | Canterbury RFU |
---|
Safle | Canolwr |
---|
Hyfforddwr rygbi'r undeb o Seland Newydd yw Steve Hansen (ganed 7 Mai 1959). Bu'n hyfforddwr tîm Cymru rhwng 2002 a 2004.
Ganed Hanesen yn Dunedin, a bu'n chwarae i dalaith Canterbury. Dechreuodd hyfforddi gyda Canterbury. Apwyntiwyd ef yn ddirpwy i Graham Henry pan ddaeth ef yn hyfforddwr Cymru. Ymddiswyddodd Henry yn 2002, a phenodwyd Hansen yn hyfforddwr. Ef oedd y nawfed hyfforddwr mewn 13 mlynedd. Yn ei gêm gyntaf fel hyfforddwr, yn erbyn Ffrainc, roedd perfformiad Cymru yn addawol, ond collwyd y gêm 37-33. Ym mhencampwriaeth 2003, collodd Cymru bob gêm, rhan o ddeg gem yn olynol a gollwyd.
Nid oedd disgwyliadau'n uchel ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003. Er hynny, perfformiodd Cymru yn well na'r disgwyl. Er i Gymru golli i Seland Newydd yn eu grŵp, ystyrid y gêm yn un o oreuon y gystadleuaeth. Cyrhaeddodd Cymru y rownd nesaf, lle collasant mewn gêm gyffrous arall i Loegr, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.
Ym mhencampwriaeth 2004, curwyd yr Alban a'r Eidal, ond collwyd y tair gêm arall, a gorffennodd Cymru yn bedwerydd yn y tabl. Ni adnewyddodd Hansen ei gontract fel hyfforddwr, a dewiswyd Mike Ruddock i'w olynu. Mae Hansen yn awr yn hyfforddi'r Crysau Duon yn Seland Newydd, fel cynorthwydd i Graham Henry.