Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Geidwadol yw Stephen Crabb (ganwyd 20 Ionawr 1973). Bu'n cynrychioli etholaeth Preseli Penfro fel Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin San Steffan rhwng 2005 a 2024.[1] Rroedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng Gorffennaf 2014 a Mawrth 2015.[2]
Ym Mai 2009 hawliodd £8,049 am ei ail gartref gan ei wario ar fflat yn Llundain. Gwerthodd hwnnw am elw a hawliodd gostau am gartref roedd yn ei brynnu ym Mhenfro. Nododd mai ei brif gartref oedd ystafell yn nhŷ cyfaill iddo.[3]
Magwraeth
Ganwyd Crabb yn Inverness, yr Alban [4] gydag un rhiant yn Albanwr a'r llall yn Gymraes. Magwyd ef a'i ddau frawd gan ei fam ar ystâd o dai cyngor ym Mhenfro.[4]
Gyrfa
Ym Mhrifysgol Bryste y cyfarfu a'i wraig Béatrice.[5] ac oddi yno aeth i Ysgol Fusnes Llundain ble y graddiodd gydag MBA. Yr un pryd, astudiodd Ffrangeg gyda'r Brifysgol Agored.[6][6]
Wedi iddo adael Prifysgol Bryste, cychwynodd weithio i elusen National Council for Voluntary Youth Services gan weithio'n rhan amser fel gweithiwr ieuenctid yn ne Llundain. Yn 1998 cychwynodd weithio yn y London Chamber of Commerce gan gael ei benodi i swydd ymgynghorydd marchnata yn 2002.
Ymgeisodd am swydd arweinydd y Blaid Geidwadol yn Mehefin 2016 gan dynnu allan er mwyn cefnogi Theresa May pan ddaeth yn amlwg nad oedd am gael y pleidleisiau angenrheidiol. Ar 14 Gorffennaf 2016 wrth i'r prif weinidog newydd Theresa May ad-drefnu'r cabinet, fe ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau "er lles ei deulu" yn dilyn adroddiadau papur newydd am ei fywyd personol yn yr wythnosau cynt.[7]
Cyfeiriadau