Enw gwreiddiol y stadiwm oedd Gerddi Soffia, wedi ei enwi ar ôl y Fonesig Sophia Rawdon-Hastings, merch Francis Rawdon-Hastings, Marcwis 1af Hastings, a gwraig John Crichton-Stuart, Ail Farcwis Bute.
Mae Morgannwg wedi bod yn chwarae criced yma ers 1967, ar ôl symud o Barc yr Arfau. Ym 1995 cymerodd Morgannwg lês o 125 mlynedd arno. Yn 2007 dechreuwyd gwaith ar gynllun i ehangu'r stadiwm i'w wneud yn addas ar gyfer gemau criced rhyngwladol. Cynhaliwyd gêm un diwrnod rhwng Lloegr a De Affrica yma ar 3 Medi 2008, a chynhaliwyd Gêm Brawf rhwng Lloegr ac Awstralia yma ar 8-12 Gorffennaf 2009.