Mae solariwm[1] yn uned sy'n cynnwys offer technegol, cabanau neu welyau haul ar gyfer rhoi lliw haul i'r corff, drwy ddisgleirio pelydrau Uwch-Fioled A
| Math | tanning |
|---|---|
| Achos | Uwchfioled |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02n6pg |

Mae solariwm[1] yn uned sy'n cynnwys offer technegol, cabanau neu welyau haul ar gyfer rhoi lliw haul i'r corff, drwy ddisgleirio pelydrau Uwch-Fioled A (95%) a phelydrau Uwch-Fioled C (tua 5%) arno. Weithiau cyfeirir at y gwely haul ei hun fel "solariwm". Defnyddir y cyfleusterau hyn oherwydd ffactorau esthetig yn hytrach na ffactorau therapiwtig, er bod arwyddion y gallai'r driniaeth gael dylanwad cadarnhaol mewn perthynas ag anhwylderau hwyliau, fel anhwylder affeithiol tymhorol. Yn ogystal, budd arall o liw haul artiffisial yw cynhyrchu fitamin D.
Er nad yw mynd i'r solariwm yn boblogaidd yng ngwledydd Môr y Canoldir oherwydd ceir digon o olau haul yno, maent yn gynyddol boblogaidd dros y byd, yn ogystal â systemau lliw haul cartref. Fodd bynnag, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhybuddio am y peryglon i'r croen y gall ymbelydredd Uwch-Fioled A artiffisial eu hachosi.[2] O gofio'r cyngor yma, efallai ei fod yn annisgwyl bod unedau solariwm i'w cael mewn canolfannau hamdden. Ceir cyfleusterau solariwm hefyd mewn canolfannau neu siopau harddwch.

Yn 1890, datblygodd y ffisegydd o Ddenmarc, Niels Ryberg Finsen, lamp arc carbon, a gynhyrchodd ymbelydredd uwchfioled a ddefnyddiwyd i drin cyflyrau croen, gan gynnwys lupus vulgaris.[3] Dyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth iddo yn 1903 am ei waith.[4]
Hyd at ddiwedd y 19g yn Ewrop a Gogledd America, roedd bod â chroen gwelw yn arwydd o ddosbarth cymdeithasol uwch ymhlith y boblogaeth wen. Yn ystod oes Fictoria, roedd menywod yn gwisgo heulbarel (parasolau), hetiau a menig i amddiffyn eu hunain rhag yr haul. Gyda diwydiannu, daeth y dosbarth gweithiol, a oedd wedi bod yn gysylltiedig â llafur yn yr haul, yn gysylltiedig â ffatrïoedd a thai tywyll. Yna daeth croen gwelw yn gyfystyr ag iechyd gwael a thlodi. Ym 1923, dychwelodd y cynllunydd dillad ffasiwn Ffrengig, Coco Chanel, o wyliau yn Cannes gyda lliw haul ac ymffrostio amdano yn y cylchgrawn ffasiwn, Vogue. Gyda hynny, dywedir, y daeth cael lliw haul yn ffasiynol.[5][6]

Daeth rhybuddion am niwed gwelyau haul ar iechyd, yn enwedig perygl o ddatblygu canser i'r fei ar ddechrau'r 2000au. Yn 2006 rhybuddiodd y Gymdeithas Feddygol yng Nghymru eu bod yn "bryderus iawn" am y cysylltiad rhwng gwelyau haul a chanser y croen.[7]
Yn 2011 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011.[7] Nodwyd bod achosion o ganser y croen ar gynnydd, ac mai prif achos canser y croen oedd amlygu’r croen yn ormodol i belydrau uwchfioled (UV). Esboniwyd y gall hyn ddigwydd yn sgil goleuni naturiol yr haul neu yn sgil pelydrau artiffisial wrth ddefnyddio gwelyau haul a lampau haul. Esboniwyd y gall canser y croen gymryd degawdau i ddatblygu, felly mae’n bosib na ddaw’n amlwg am flynyddoedd ar ôl i’r niwed gael ei achosi.
Ar ddechrau'r 21g cafwyd oddeutu 100,000 o achosion newydd o ganser y croen nad yw’n felanoma yn y Deyrnas Unedig, ac erbyn 2007 roedd dros 84,500 o achosion o’r fath, ond byddai wedi bod modd trin y mwyafrif ohonynt. Melanoma malaen y croen, fodd bynnag, yw’r ffurf mwyaf peryglus o ganser y croen oherwydd y gall ymledu i organau eraill ac mae’n gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau yn sgil canser y croen. Yn 2007, yr oedd dros 10,670 o achosion o felanoma malaen yn y Deyrnas Unedig.[8]
Yn ôl y ddeddf nid yw'n gyfreithlon i sefydliad "hurio" gwely haul i berson o dan 18 oed.[7]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.