Actores ac awdures Gymreig yw Siân Gibson (ganwyd Siân Foulkes; 30 Gorffennaf 1976). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Peter Kay.[1]
Bywyd cynnar
Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug. Roedd ei thad yn adeiladwr a'i mam yn wraig tŷ. Nid oedd hi'n ystyried ei hun yn berson 'artistig' ond fe ymunodd a'r theatr ieuenctid lleol yn Theatr Clwyd.[2]. Astudiodd gwrs Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Salford, lle cyfarfu ei chyd-fyfyrwyr Peter Kay a Steve Edge.[3]
Gyrfa
Cyn ei rhan yn Peter Kay's Car Share nid oedd wedi cael clyweliad am unrhyw waith actio ers dros flwyddyn ac roedd hi'n gweithio mewn canolfan alwadau yng Nghaer. Daeth llwyddiant y gyfres a Gibson i lygad y cyhoedd ac fe agorodd y drws ar gyfer mwy o waith actio iddi. Mae ganddi ran sylweddol yn y ddrama gomedi unigol Do Not Disturb gyda Catherine Tate, i'w ddarlledu ar sianel Gold. Dychwelodd mewn ail gyfres o Car Share a recordiwyd yn 2016.[2]
Crëodd ac ysgrifennodd y gyfres deledu gomedi The Power of Parker gyda Paul Coleman ac mae'n actio'r brif ran yn y gyfres ynghyd â Conleth Hill.
Bywyd personol
Mae'n briod ag Ian sydd yn beiriannydd nwy ac mae ganddynt ferch Gracie (ganwyd 2013).[2]
Cydnabyddiaethau
Teledu
Blwyddyn
|
Teitl
|
Rhan
|
Nodiadau
|
1997 |
Peak Practice |
Sandra |
Un pennod
|
1997 |
Where the Heart Is |
Cheese Counter Girl |
Un pennod
|
1997 |
The Grand |
Florence |
Un pennod
|
1998-99, 2007
|
Hollyoaks
|
Tessie Thompson
|
Pedwar pennod
|
1998
|
Comedy Lab
|
Alison
|
"The Services"
|
1999
|
That Peter Kay Thing
|
Yvonne
|
"Eyes Down"
|
2000
|
The League of Gentlemen
|
Trish
|
Dau bennod - "Lust for Royston Vasey", "The One-Armed Man Is King"
|
2001
|
Phoenix Nights
|
Mary (ifanc
|
Tri phennod
|
2002
|
Emmerdale
|
Suzie Brown
|
Dau bennod
|
2005
|
Marian, Again
|
Fiona
|
Ffilm deledu (cydnabyddwyd fel Sian Foulkes)
|
2008
|
Britain's Got the Pop Factor... and Possibly a New Celebrity Jesus Christ Soapstar Superstar Strictly on Ice
|
Wendy o'r grŵp, 2 Up-2 Down
|
|
2015-2017
|
Peter Kay's Car Share
|
Kayleigh Kitson
|
cyd-awdur a chrewr
BAFTA am y Comedi Sgriptiedig Gorau
Gwobr NTA am y Comedi Gorau
Enwebwyd-BAFTA am Berfformiad Comedi Benywaidd Gorau
|
2016
|
Do Not Disturb
|
Sheila
|
|
2017
|
Hospital People
|
Hillary
|
Cyfres 1 Pennod 2 "The Security Threat"
|
2017 |
Murder on the Blackpool Express [4] |
Gemma |
Rhan gefnogol
|
2018 |
Inside No. 9 |
Leanne |
Un pennod - "Bernie Clifton's Dressing Room"
|
2018 |
Death in Paradise |
Gilly Wright |
|
2018 |
Would I Lie to You? |
Ei hun |
Tîm Lee's gyda James Acaster
|
2018 |
Death on the Tyne |
Gemma |
Rhan gefnogol
|
2019 |
Taskmaster |
Cystadleuydd |
Cyfres 8
|
Cyfeiriadau
Dolenni allanol