Actores o dras Gymreig yw Siân Brooke (ganwyd Sian Phillips yn Lichfield ym 1980) sy'n adnabyddus am bortreadu Laura yn All About George a Lori yn Cape Wrath.
Disgrifir yn amrywiol fel Cymraes neu Saesnes.[1][2][3]
Cefndir
Magwyd Brooke yn Lichfield a hi yw'r plentyn ieuengaf o dri.[4] Cafodd ei geni i rieni Cymreig.[5] Roedd yn gyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid a fe'i hyfforddwyd yn RADA, gan raddio yn 2002.
Ei chyfenw bedydd oedd Phillips. Dewisodd ei enw llwyfan i osgoi dryswch gyda'r actores Siân Phillips, gan ddewis y cyfenw Brooke ar ôl cadfridog yn Rhyfel Cartref Lloegr a fu'n gwasanaethu yn Lichfield, ei thref enedigol.[6]
Gyrfa
Mae credydau teledu Brooke yn cynnwys A Touch of Frost, Hotel Babylon, Foyle's War ac The Fixer. Yn blentyn, ymddangosodd yn Strangers in Utah gyda Adrian Dunbar a Phyllida Law. Chwareodd Laura, un o'r brif gymeriadau yn All About George a Lori Marcuse yn Cape Wrath.
Mae Brooke wedi benthyg ei llais i ddramâu radio dramâu Murder on the Homefront, A Pin to See the Peepshow a Dreaming in Africa.[7]
Mae ei gwaith theatr yn cynnwys Harvest, Dying City, Dido Queen of Carthage, In The Club, The Birthday Party ac Absolutely Perhaps. Mae hi hefyd wedi ymddangos mewn cynyrchiadau o Poor Beck, A Midsummer Night's Dream, King Lear a Romeo a Juliet, gyda'r Royal Shakespeare Company. O fis Gorffennaf i fis Awst 2008, roedd Brooke yn chwarae Dorothy Gale yn sioe gerdd The Wizard of Oz yn y Southbank Centre. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Jude Kelly. Yn ystod 2011 yn yr Almeida Theatre, Llundain, ymddangosodd yn My City gan Stephen Poliakoff a Reasons to be Pretty gan Neil LaBute. O fis Awst i fis Hydref 2015, bu'n chwarae rhan Ophelia ochr yn ochr â Benedict Cumberbatch yn nghynhyrchiad y Barbican o Hamlet.[8][9]
Yn 2017, bu'n portreadu Eurus, chwaer Sherlock Holmes, ym mhedwerydd cyfres y BBC o'r ddrama drosedd Sherlock.
Ffilmyddiaeth
Blwyddyn
|
Teitl
|
Rhan
|
Nodiadau
|
2002
|
Dinotopia
|
Krista
- Marooned (2002)
- Making Good (2002)
- Lost and Found (2003)
- The Cure: Part One (2003)
- Crossroads (2003)
|
DramaFfantasi
|
2006
|
All About George
|
Laura
|
Drama-gomedi
|
Under the Greenwood Tree
|
Susan Dewy
|
Ffilm deledu
|
2006
|
A Touch of Frost
|
Carol Haymarsh
- Endangered Species (2006)
|
Cyfres dditectif
|
Housewife, 49
|
Evelyn Edwards
|
Ffilm deledu
|
2007
|
Foyle's War
|
Phyllis Law
- Bleak Midwinter (2007)
|
Drama drosedd cyfnod
|
Hotel Babylon
|
Lisa
- Pennod 2.4 (2007)
|
Drama-gomedi
|
Cape Wrath
|
Lori Marcuse
|
Drama
|
2008
|
The Fixer
|
Melrose Cassidy
- Pennod 1.2 (2008)
|
Drama
|
Midsomer Murders
|
Christine Turner
- The Magician's Nephew (2008)
|
Cyfres dditectif
|
The Commander
|
DC Marian Randall
- Abduction (2008)
|
Cyfres dditectif
|
2011
|
Garrow's Law
|
Ann Hadfield
|
Cyfres Tri
|
2017
|
Sherlock
|
Euros Holmes
- "The Six Thatchers"
- "The Lying Detective" (2017)
|
Cyfres Pedwar
|
Cyfeiriadau
Dolenni allanol