Sip

Dyfais boblogaidd ar gyfer clymu dau ddarn o ddefnydd at ei gilydd dros dro yw sip. Defnyddir mewn dillad, er enghraifft siacedi a jîns, bagiau, offer gwersyll

Sip
Sipiau plastig a neilon

Dyfais boblogaidd ar gyfer clymu dau ddarn o ddefnydd at ei gilydd dros dro yw sip. Defnyddir mewn dillad, er enghraifft siacedi a jîns, bagiau, offer gwersylla, megis pebyll a sachau cysgu yn ogystal â nifer o eitemau eraill a ddefnyddiwn o ddydd i ddydd.

Arddangosodd Whitcomb L. Judson ei "glo cau" (Saesneg: clasp locker) yn Ffair y Byd Chicago, 1893. Cafodd y syniad ei ddatblygu gan y peiriannydd Swedaidd-Americanaidd Gideon Sundback a dderbynodd patent ym 1913. Cafodd dyfais debyg ei batentu ym 1912 yn Ewrop gan Catharina Kuhn-Moos. Defnyddiwyd sipiau ar ddillad dynion a menywod yn gyntaf ar ddiwedd y 1920au.[1]

Disgrifiad

Mae dau ddarn o dâp defnydd, sy'n cael eu glynu at y ddau ddarn o defnydd sydd i gael ei uno; ar hyd ymyl y tâp, mae degau neu gannoedd o ddannedd bychain plastig neu fetel. Mae'r dannedd rhain wedi cael eu siapio'n arbennig i ffitio gyda'i gilydd. Mae llithrydd, sy'n cael ei dynnu gyda'r llaw, yn symud o un ben y sip i'r llall, gan symud ar hyd y rhes o ddannedd. O fewn y llithrydd mae sianel mewn siâp Y, sy'n masgio'r ddau res o ddannedd at ei gilydd, neu yn eu gwahanu, yn dibynnu ar ba gyfeiriad mae'r llithiwr yn symud. Mae'r ffrithiant a'r dirgryniad a achosir gan y llithiwr yn symud yn erbyn y dannedd yn crau sain nodweddiadol, hwn mae'n debyg yw tarddiad y gair sip. Gall y gair hefyd fod wedi tarddu o'r cyflymder y gall y ddau ddarn o ddefnydd gael eu clymu at ei gilydd i gymharu a'r amser mae'n cymryd i cau rhes o fotymau neu gau criau.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) zipper. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Rhagfyr 2013.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.