Tŷ, siop a chyn weithdy argraffu ydy Siop Nain a leolir yn 6 Stryd y Ffynnon, Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae'n adeilad Gradd II sy'n dyddio'n ôl i 1490.
Yn 1850 defnyddiwyd yr adeilad gan Isaac Clarke, cyhoeddwr, a argraffodd y copiau cyntaf o Hen Wlad fy Nhadau yn yr adeiladau yng nghefn y siop.
Cafodd yr adeilad ei gofrestru am ei fod yn adeilad pren o'r canoloesoedd sydd wedi cadw llawer o fanylion a chymeriad y cyfnod, gyda nodweddion diddorol hefyd o'r 17eg a'r 19g. Yr ail reswm dros ei gofrestru yw'r cysylltiad gyda'r anthem genedlaethol.[1]