Mae Sinema'r Castell yn gyn-sinema sydd wedi'i lleoli ar dir Castell Abertawe yn Abertawe, yn ne Cymru. Yn ystod y Blitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dyma oedd yr unig adeilad ar Stryd y Castell yn Abertawe i oroesi. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.
Parhawyd i ddefnyddio'r adeilad fel sinema tan ddiwedd y 1980au er fod y cyfleusterau yn hynod hen ffasiwn erbyn hynny. Yn ddiweddarach, newidiwyd yr adeilad i gwrs antur gynnau laser o'r enw Lazerzone, am fod cynulleidfaoedd sinema yn newid eu harferion gwylio ffilmiau.