Mae Siero yn ardal weinyddol (tebyg i gynghor) yn rhanbarth Oviedo, Asturias. Mae'n un o 78 ardal debyg a elwir yn Astwrieg yn conceyos ac yn Sbaeneg yn 'comarcas'.
Caiff ei hamgylchynu gan gynghorau eraill ac o fewn ei diriogaeth mae bwrdeistref Noreña. Mae'n ffinio i'r gogledd â Gijón, i'r dwyrain gyda Villaviciosa, Sariego, Nava, a Bimenes, i'r de gyda chynghorau Langreo a San Martín del Rey Aurelio, ac i'r gorllewin gydag Oviedo a Llanera. Mae ei arwynebedd yn 209,32 km ², ac mae ei phoblogaeth bresennol ym 49,376 o drigolion, gan mwyaf yn La Pola, Lugones a'r Berrón.