Mae orbit y Ddaear o amgylch yr Haul yn achosi mudiant ymddangosiadol y diwethaf ar hyd yr ecliptig (coch). Mae'r ddaear ar ogwydd echelinol 23.4° o'i gymharu â'r plân hwn; dangosir ei chyhydedd, wedi'i ymestyn i'r sêr, mewn glas golau.
Mae'r Sidydd (Saesneg: Zodiac; Groeg: ζῳδιακός, zōidiakos) yn gylch o 12 rhaniad 30° ar hyd yr ecliptig, sef y llwybr ymddangosiadol y mae'r haul yn ei ddilyn dros gyfnod o flwyddyn. Mae llwybr y lloer a'r planedau'n agos iawn i'r eliptig sy'n ymestyn 8-9° i'r gogledd neu'r de ac a fesurir mewn lledred seryddol.
Gelwir y rhaniadau hyn yn ddeuddeng "Arwydd". Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol, bellach.
Arwyddion y Sidydd
Rhennir y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis o'r flwyddyn), a rhoddir iddynt enw'r cytser agosaf. Mae'r tabl hwn yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan fydd yr haul yn mynd drwyddynt.
Llawysgrif Gutun Owain
Mae rhan gyntaf Llawysgrif Gutun Owain (gweler y ddelwedd uchod) yn cynnwys cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth. Roedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ledled Ewrop erbyn y 15g ac roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill ac iechyd a medygaeth gan y byddent yn effeithio ar "hiwmorau"'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar "hiwmor" yn bodoli ers cyfnod y Groegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar yr hiwmorau hyn yn achosi afiechyd.
Cyfeiriadau