Ystyr sensoriaeth ydy pan fo'r rhyddid i gael llefaru neu gyfathrebu gwybodaeth benodol yn cael ei rwystro neu'i orthrymu. Gan amlaf, ystyrir y wybodaeth hon yn
Mae rhai llywodraethau cenhedloedd fel Sawdi Arabia, Gogledd Corea, Ciwba, Iran, Feneswela a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn cyfyngu pobl yn eu gwledydd rhag edrych ar gynnwys Rhyngrwyd penodol am resymau ideolegol, gwleidyddol a / neu grefyddol, a ystyrir yn groes i'ch meini prawf.
Ystyr sensoriaeth ydy pan fo'r rhyddid i gael llefaru neu gyfathrebu gwybodaeth benodol yn cael ei rwystro neu'i orthrymu. Gan amlaf, ystyrir y wybodaeth hon yn sensitif, anghyfleus, yn beryglus neu'r wrthwynebus o safbwynt y llywodraeth, cyfryngau neu gorff rheolaethol arall.
Rhesymeg dros sensoriaeth
Amrywia'r rhesymau am sensoriaeth yn dibynnu ar y math o wybodaeth a gaiff ei sensro:
Sensoriaeth foesol ydy cael gwared ar ddeunydd a ystyrir yn anweddus neu o foesoldeb amwys. Er enghraifft, yn aml sensorir pornograffi am y rheswm hwn.
Sensoriaeth filwrol yw'r broses o gadw gwybodaeth filwrol a dulliau milwrol yn gyfrinachol ac allan o law'r gelyn. Defnyddir hyn i wrthsefyll sbio, sef y broses o ddarganfod gwybodaeth filwrol. Yn aml, bydd lluoedd arfog yn ceisio gorthrymu gwybodaeth sydd yn anghyfleus yn wleidyddol er nad oes gan y wybodaeth unrhyw werth milwrol go iawn.
Sensoriaeth wleidyddol ydy pan nad yw llywodraeth yn rhannu gwybodaeth gyda dinasyddion y wlad. Gwneir hyn er mwyn medru rheoli'r boblogaeth ac er mwyn atal rhwystro'r rhyddid i lefaru a allai achosi gwrthryfel.
Sensoriaeth grefyddol yw pan fo rhywbeth a ystyrir yn ddadleuol gan rhyw ffydd benodol yn cael ei ddileu. Yn aml bydd hyn yn digwydd pan fo crefydd mawr yn gorfodi cyfyngiadau ar grefyddau llai.
Sensoriaeth gorfforaethol yw'r broses pan fo golygyddion yn y cyfryngau corfforaethol yn amharu ar y broses o gyhoeddi gwybodaeth a fyddai'n darlunio eu busnes neu eu partneriaid busnes hwy mewn modd negyddol.
Sensoriaeth gwybodaeth
Prosiectau Wicimedia
Twrci - ym Mai 2017 gosodwyd cyfyngiadau gan Gyfraith Twrcaidd Rhif 5651, oherwydd erthygl ar y fersiwn Saesneg o Wicipedia ar derfysgaeth a noddir gan y wladwriaeth, lle disgrifiwyd Twrci fel gwlad a oedd yn noddi ISIS ac Al-Qaeda. Roedd llysoedd Twrci yn ystyried hyn fel cyflyru gan y cyfryngau torfol. Ni weithredwyd ar geisiadau gan Awdurdod Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu Twrci i olygu sawl erthygl i gydymffurfio â chyfraith Twrci. Oherwydd hyn, gwaharddwyd Wicipedia yn Nhwrci, ac roedd y bloc hwnnw'n parhau yn 2019.
Catalwnia - ar 5 Tachwedd 2019 pasiodd Llywodraeth Sbaen 'Archddyfarniad Brenhinol Sbaen o Ddiogelwch Cyhoeddus (14/2019)' i ddod a throsglwyddo data a gwybodaeth ar y we i ben ac i gau unrhyw wefanau heb erlyn y corff sy'n gyfrifol mewn llys. Gwnaed hyn o ganlyniad i brotestio ledled Catalwnia oherwydd carcharu arweinwyr Llywodraeth Catalwnia ychydig cynt. Gwrthwynebwyd hyn gan y Grwp Defnyddwyr y Catalwniaid, Amical.
Beate Müller (gol.), Censorship and Cultural Regulation in the Modern Age (Critical Studies Vol. 22) (Amsterdam: Rodopi, 2004).
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.