Commune yn Ffrainc ac un o faesdrefi Paris yw Saint-Denis. Saif tua 5 km i'r gogledd o ddinas Paris ei hun, yn départementSeine-Saint-Denis, ac roedd y boblogaeth yn 1999 yn 85.832.
Enwyd Saint-Denis ar ôl Sant Denis neu Dionysius, a ferthyrwyd tua 250 ym Mharis, ar y safle a elwir yn awr yn Montmartre. Yn y fan lle claddwyd ef, adeiladodd Dagobert I, brenin y Ffranciaid, abaty, a dyfodd i fod yn bwysig dan yr Abad Suger o 1120 ymlaen. Claddwyd y rhan fwyaf o frenhinoedd Ffrainc ym Masilica Sant Denis yma.
Tyfodd Saint-Denis yn gyflym fel canolfan ddiwydiannol yn y 19g, ond gyda machlud llawer o'r diwydiannau hyn yn yr 20g tyfodd problemau economaidd. Yn 1998, adeiladwyd y stadiwn rygbi cenedlaethol, Stade de France, yma.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!