Ryland Teifi |
---|
|
Ganwyd | 12 Rhagfyr 1972 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, canwr, cyfansoddwr caneuon |
---|
Actor, canwr a chyfansoddwr o Gymru yw Ryland Teifi (ganwyd 12 Rhagfyr 1972). Mae'n adnabyddus am chwarae rôl Peter Marshall yn y gyfres deledu Caerdydd ac fel Douglas Green yn y gyfres deledu Pen Talar. Yn 2009 a 2010 cafodd ei enwebu gan BAFTA Cymru yn y categori Actor Gorau. Symudodd i Iwerddon yn 2011 a chanolbwynto ar ei yrfa gerddorol gyda ei fand Mendocino.
Daw o bentref Ffostrasol yn wreiddiol, lle arferai ei rieni redeg siop y pentref. Mae Teifi ei hun yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi yn Llandysul.
Bywyd personol
Cyfarfu ei wraig Roisin Clancy tra oedd yn gweithio gyda cwmni theatr Arad Goch yng Nghaerdydd ac mae ganddynt tair o ferched. Bu'r teulu yn byw yng Y Barri am 12 mlynedd cyn symud, yn 2011, i
An Rinn, Swydd Waterford, Iwerddon.[1]
Ffilmyddiaeth
Disgyddiaeth
- Heno (2005)
- Lili'r nos
- Under the Blue
Cyfeiriadau
Dolenni allanol