Cymraes a yrrwyd i Dir Van Diemen (Tasmania) am saith mlynedd ym 1847 oedd Ruth Roberts[1] wedi iddi ddwyn pedwar cabaets o ardd ger Y Bala.[2]
Cymraes a yrrwyd i Dir Van Diemen (Tasmania) am saith mlynedd ym 1847 oedd Ruth Roberts[1] wedi iddi ddwyn pedwar cabaets o ardd ger Y Bala.[2]
Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb. Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau.[3]
Wrth edrych ar y driniaeth a dderbyniodd troseddwyr benywaidd, yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw’r gwrthdaro cyson a geir rhwng y ddelwedd o’r ferch eiddil a’r gred fod rhai merched yn wirioneddol ddrwg.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.