Roger Ebert

Roger Ebert
Roger Ebert mewn cyfweliad radio yn Chicago yn 2006.
Ganwyd18 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Urbana Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 2013 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Tref y Penrhyn
  • Prifysgol Illinois yn Urbana–Champaign
  • Prifysgol Chicago
  • Urbana High School
  • UIUC College of Media Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, beirniad ffilm, newyddiadurwr, gohebydd, llenor, cyflwynydd, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodChaz Ebert Edit this on Wikidata
Gwobr/auPulitzer Prize for Criticism, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Gwobr Pulitzer Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rogerebert.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Beirniad ac hanesydd ffilm, newyddiadurwr, a sgriptiwr o'r Unol Daleithiau oedd Roger Joseph Ebert (18 Mehefin 19424 Ebrill 2013) a fu'n adolygu ffilmiau i'r Chicago Sun-Times am hanner can mlynedd bron, ac yn cyd-gyflwyno'r rhaglen At the Movies gyda Gene Siskel. Ebert oedd un o'r beirniaid ffilm enwocaf a mwyaf dylanwadol yn Unol Daleithiau America, a'r beirniad ffilm cyntaf i ennill Gwobr Pulitzer.

Ganed ef yn Urbana, Illinois, a chychwynnodd ar ei yrfa yn ysgrifennu i bapurau newydd fel gohebydd chwaraeon i'r Champaign-Urbana News-Gazette, pan oedd ond yn 15 oed. Bu'n ben golygydd The Daily Illini, papur newydd myfyrwyr Prifysgol Illinois, ac oddi yno derbyniodd ei radd baglor mewn newyddiaduraeth ym 1964. Treuliodd flwyddyn yn astudio yn Nhref y Penrhyn, De Affrica, gydag ysgoloriaeth o'r Clwb Rotari, ac aeth i Brifysgol Chicago am flwyddyn arall fel myfyriwr ôl-raddedig.[1] Ymunodd â staff y Chicago Sun-Times, a fe'i penodwyd yn brif feirniad ffilm y papur newydd ym 1967; bu yn y swydd honno hyd at ei farwolaeth. Bu'n gyfaill i'r cyfarwyddwr sexploitation Russ Meyer, ac ysgrifennodd Ebert ambell sgript ffilm ar gyfer Meyer yn y 1970au, gan gynnwys Beyond the Valley of the Dolls (1970).

Enillodd Ebert Wobr Pulitzer am Feirniadaeth ym 1975. Yn yr un flwyddyn, ymddangosodd am y tro cyntaf gyda Gene Siskel, prif feirniad ffilm y Chicago Tribune, ar raglen deledu leol o'r enw Opening Soon at a Theater near You (1975–77), a gafodd ei ail-enwi'n Sneak Previews a'i ddarlledu ar y sianel gyhoeddus PBS gyda Siskel ac Ebert o 1977 i 1982. Addaswyd y fformat hwn ar ffurf At the Movies, sioe wedi ei syndicetio ar gyfer sianeli masnachol, ym 1982; yn ddiweddarach cafodd ei ail-enwi'n Siskel & Ebert & the Movies, ac yna Siskel & Ebert. Wedi marwolaeth Siskel ym 1999, cyd-gyflwynai Ebert y sioe â sawl gŵr gwadd cyn i'r colofnydd Richard Roeper gael ei benodi'n bartner parhaol iddo yn 2000, ac ail-enwyd y rhaglen yn Ebert & Roeper & the Movies.

Dioddefodd Ebert o ganser y thyroid ym 1987, ac ailymddangosodd y clefyd yn 2002. Cafodd driniaeth yn yr ysbyty sawl tro, ac yn 2006 bu'n rhaid tynnu ei ên isaf yn sgil cymhlethdodau llawdriniaeth. Collodd ei lais a'i allu i fwyta ac yfed, ond parhaodd i ysgrifennu adolygiadau a llyfrau, gan gynnwys ei hunangofiant Life Itself (2011). Bu farw yn Chicago yn 70 oed.[2]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Roger Ebert. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) Douglas Martin, "Roger Ebert Dies at 70; a Critic for the Common Man", The New York Times (4 Ebrill 2013). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Hydref 2021.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!