Nid yw wedi cyhoeddi cyfrol (papur) o'i waith, ond cyhoeddwyd Rebel ar y We ar y we fyd-eang yn Rhagfyr 1996; hon oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i'w rhoi ar y we fyd-eang.[2][3] Newidiwyd teitl y gyfrol ddigidol hon ar y 22 Mai2006 i 'Rhedeg ar Wydr'.[4]
Bu'n brifathro am gyfnod o tua 15 mlynedd.
Wikimedia
Ar 1 Gorffennaf 2013, apwyntiwyd Robin yn Reolwr cyntaf i Gymru gan Wikimedia UK a Wici Cymru.[5][6] Mae ei rôl yn bwriadu ehangu y Wicipedia Cymraeg a deunydd Cymreig ar y Wicipedia Saesneg. Fel rhan o'r cynllun hwn, cyfrannodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ariannol at hyfforddi olygyddion newydd.[6] Wrth siarad am apwyntiad Robi, dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK: "Mae apwyntiad Robin fel Rheolwr Cymru yn rhan hanfodol o'n strategaeth allgymorth. Y Wicipedia Cymraeg yw'r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd a rydym yn falch o gefnogi'r Gymraeg."[5]
Llyfryddiaeth
Ceidwad y Gannwyll Casgliad o 10 o ganeuon i blant rhwng 8 a 14 oed; ISBN 0862433681