Mae Rhys Trimble (ganwyd 9 Medi1977) yn fardd sydd yn ysgrifennu, cyhoeddi, perfformio, canu, creu gwaith gweledol a byrfyfyriol (improvisational) yn Gymraeg a Saesneg.[1][2]
Astudiodd lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn 2010, gan gyhoeddi ei gyfrol cyntaf o farddoniaeth Keinc yn yr un flwyddyn. Derbyniodd PhD o Brifysgol Northumbria, Newcastle, gyda'r thesis doethurol Tywysogion.[3][4]
Mae ei waith pellach wedi'i gyhoeddi mewn dros 15 cyfrol yng Nghymru, Lloegr a'r Unol Daleithiau yn cynnwys Swansea Automatic, Anatomy Mnemonics for Caged Waves ac Hexerisk.[5][6]
Mae Timble hefyd yn ganwr gyda'r grŵp pyncLolfa Binc.[7] ac wedi cyfrannu gelf gyhoeddus yn Denbigh, Dyffryn Conwy a Blackpool. Fe'i enwebwyd am wobr T. S. Eliot yn 2016.Mae hefyd yn olygydd y wefan farddoniaeth arbrofol ctrl+alt-del ers 2008.[8]
Mae ei waith wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd yn cynnwys Slofaceg, Latfieg, Sbaeneg, Tyrceg a Galiseg. Mae ei gerddi hefyd wedi'u cynnwys mewn nifer o gyfrolau o flodeugerddi. Mae wedi perfformio a chymryd rhan mewn nifer o brojectau celfyddydol ar draws y byd yn cynnwys India, Croatia, Jamaica a Latfia.[9][10][11][12][13].[14]
↑"Pass Masters: Students' delight as they pick up degrees". Daily Post. 14 July 2010. Rhys Trimble, 32, who lives in Bethesda, graduated with a BA in Literature and Creative Writing and has recently published his first book. Keinc, (in English 'branch)', which twists between mythology and relationships.