Dadl gyhoeddus yn Awstralia yw'r rhyfeloedd hanes, sy'n parhau hyd heddiw. Mae'r ddadl yn ymwneud â dadansoddiad hanes y wladychiad Ewropeaidd o Awstralia, a'i effaith ar yr Awstraliaid Brodorol ac Ynyswyr Culfor Torres.
Mae'r ddadl yn canolbwyntio ar a oedd hanes anheddiad Ewropeaidd o Awstralia ers 1788 yn:
a) hynaws, gyda'r wlad yn cael ei aneddu yn heddychlon, gyda digwyddiadau penodedig o gamdriniaeth yr Awstraliaid Brodorol yn egwyriannau;
b) wedi ei andwyo gan imperialaeth, ecsploetiaeth, camdriniaeth, y difeddianniaeth trefedigaethol, gwrthdaro treisgar a hil-laddiad diwylliannol, yn swyddogol ac yn answyddogol; neu
c) rhywbeth rhwng y ddau dadansoddiad.
Mae'r rhyfeloedd hanes hefyd yn cyfeirio at themâu ehangach yn ymwneud â hunaniaeth cenedlaethol,[1] a chwestiynau methodolegol ynglŷn â gwerth a dibynadwyaeth y cofnodion (cofnodion yr awdurdodau a'r anheddwyr) a thraddodiad llafar yr Awstraliaid Brodorol, ynghyd â rhagfarn ideolegol y rhai sy'n eu ddadadsoddi.
Cyfeiriadau