Ffurfir y rhaeadrau o tua 275 rhaeadr unigol, bron 70 medr o uchder. Yn 1984 cyhoeddwyd y Parque Nacional Iguazú yn yr Arianinn yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO; yna yn 1986 cyhoeddwyd y Parque Nacional do Iguaçu ar ochr Brasil yn Safle Treftadaeth y Byd hefyd. Mae'r rhaeadrau a'r goedwig drofannol o'u cwmpas yn atyniad pwysig i dwristaid.