Y retina (hefyd rhwyden) yw'r haen fwyaf mewnol o belen y llygad ac sy'n bilen oleusensitif amlhaenog dyner. Mae opteg y llygad yn creu delwedd o'r byd gwe
| Delwedd:Retina1.jpg, SD-OCT Optic Disc Cross-Sections.png | |
| Enghraifft o: | golwg lliw, dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | layer of wall of eyeball, endid anatomegol arbennig |
| Rhan o | llygad, chorioretinal region |
| Cysylltir gyda | choroid, vitreous humour |
| Yn cynnwys | retinal cell |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0cycw |
| Thesawrws y BNCF | 5221 |
| UMLS CUI | C0035298 |
| Quora | Retinas |
Y retina (hefyd rhwyden) yw'r haen fwyaf mewnol o belen y llygad ac sy'n bilen oleusensitif amlhaenog dyner. Mae opteg y llygad yn creu delwedd o'r byd gweledol ar y retina (trwy'r cornbilen a'r lens), sy'n gweithio mewn ffordd nid annhebyg i ffilm mewn camera.
Mae'r golau sy'n taro'r retina yn creu rhaeadr o ddigwyddiadau cemegol a thrydanol sydd yn y pen draw yn achosi cynhyrfiadau nerfol. Mae rhain yn cael eu hanfon i wahanol ganolfannau gweledol yn yr ymenydd drwy ffibrau'r nerf optig. Mae'r retina nerfol fel arfer yn cyfeirio at dair haen o gelloedd nerfol (ffotodderbynyddion [rhodenni a chonau], celloedd deubegwn a chelloedd ganglion) o fewn i'r retina, tra fod y retina cyfan yn cyfeirio at yr haenau hyn ynghyd â haen o gelloedd epithelaidd pigmentog.[1]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.