Mae Rebecca (1940) yn ffilm gyffro seicolegol a gyfarwyddwyd gan Alfred Hitchcock. Dyma oedd ei brosiect Americanaidd cyntaf a chynhyrchwyd ei ffilm gyntaf mewn cytundeb gyda David O. Selznick. Roedd sgript y ffilm yn addasiad Joan Harrison a Robert E. Sherwood o addasiad Philip MacDonald a Michael Hogan o nofel o'r un enw gan Daphne du Maurier ym 1938. Cynhyrchwyd y ffilm gan Selznick. Mae'r ffilm yn serennu Laurence Olivier fel Maxim de Winter, Joan Fontaine fel ei ail wraig a Judith Anderson fel morwyn ei wraig farw, Mrs. Danvers.
Mae'r ffilm yn hanes gothig am atgof parhaus y prif gymeriad, sydd yn effeithio Maxim, ei wraig newydd a Mrs Danvers ymhell wedi ei marwolaeth. Enillodd y ffilm ddwy o Wobr yr Academi, gan gynnwys y ffilm orau.
Cast
Mae ymddangosiad cameo Hitchcock, sy'n nodwedd o'i ffilmiau, i'w weld tua diwedd y ffilm, pan mae i'w weld tu allan i flwch ffôn pan mae Jack yn gwneud galwad.