Athrawiaeth bwysig yng ngwleidyddiaeth grym, Realpolitik, a damcaniaeth realaeth yw raison d'état (Ffrangeg am "rheswm y wladwriaeth") sydd yn ymwneud â goruchafiaeth a chanologrwydd y wladwriaeth yn y drefn ryngwladol. Mae'n dal bod anghenion yn uwchraddol i foesoldeb yng nghysylltiadau rhyngwladol a bod buddiannau'r wlad yn bwysicach na dim arall. Dylai'r llywodraeth felly ystyried popeth yn nhermau beth sydd o fudd i'r wladwriaeth, megis mesureb iwtilitaraidd, a phenderfynu ar y polisïau a fydd yn rhoi iddi'r fantais ar bob un wladwriaeth a gweithredydd arall.
Datblygwyd yr athrawiaeth gan Niccolò Machiavelli yn ei glasur Il Principe. Gosodai parhad y wladwriaeth yn ganolog i'w athroniaeth wleidyddol, ac yn bwysicach na phob ystyriaeth arall. Yn ei brif waith arall, Discorsi sopra la prima deca di Tito Livio, crybwyllai disgrifiad o raison d'état yn ei hanfod: "Pan bo union ddiogelwch y famwlad mewn peryg, ni dylai bod cwestiwn o ystyried os yw rhywbeth yn gyfiawn neu yn anghyfiawn, yn ddyngar neu yn greulon, yn glodwiw neu yn gywilyddus. Mae'n rhaid anwybyddu pob un ystyriaeth arall a dewis y ffordd o weithredu a fyddai'n diogelu oes a rhyddid y wlad." Ym myd y gwleidydd, yn hytrach na'r athronydd, cysylltir raison d'état â pholisïau'r Cardinal Richelieu yn Nheyrnas Ffrainc yn yr 17g. O ran polisi mewnwladol, fe'i defnyddiwyd i gyfiawnhau awdurdod canolog dros ddiddordebau lleol, ac o ran polisi tramor fe'i defnyddiwyd gan Ffrainc i ffurfio cynghreiriau y erbyn y Hapsbwrgiaid, er yr oeddynt yn rhannu'r un ffydd ac ideoleg wleidyddol. Bu'r ffurf iwtilitaraidd ar raison d'état ar ei hanterth yng nghyfnod ehangiaeth Otto von Bismarck.[1]
Gellir dadlau bod dimensiwn moesegol i'r athrawiaeth drwy wydryn y fformiwla diben-a-modd. Os ydy'r diben a anelir ato yn un moesol, a dadleuir bod parhad y wladwriaeth yn un felly, yna mae'r tensiynau rhwng moesoldeb cyhoeddus a phreifat yn diflannu, ac mae raison d'état yn gyfystyr â'r ddelfryd foesol. Dyma enghraifft o freuddwyd gwrach, fodd bynnag, gan ei bod yn tybio sefyllfa berffaith o foesoldeb yn cyd-ddigwydd â buddiannau'r wlad. Mae gwleidyddion sydd wedi manteisio ar raison d'état i gyfiawnhau polisïau anfoesol a dadleuol wedi pardduo'r athrawiaeth yng ngolwg y cyhoedd. Er gwaethaf, mae'n parhau yn gysyniad sydd yn ganolog i ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol a dadansoddi polisi tramor.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), tt. 460–1.