Enw planhigyn a gyfeiria at ambell gyltifar o wrd yw pwmpen, gan amlaf y rheiny o Cucurbita pepo, sydd yn grwn, llyfn ac â chroen braidd yn asennog o liw sydd



Enw planhigyn a gyfeiria at ambell gyltifar o wrd yw pwmpen, gan amlaf y rheiny o Cucurbita pepo, sydd yn grwn, llyfn ac â chroen braidd yn asennog o liw sydd yn amrwyio rhwng melyn dwfn ac oren. Mae pwmpenni, ynghyd â'r gwrd, yn gynhenid i Ogledd America.[1] Fe'u tyfir yn helaeth yno ar gyfer defnydd masnachol, a chânt eu defnyddio yn ogystal mewn coginio ac at ddibenion adloniadol. Mae pastai bwmpen, er enghraifft, yn draddodiadol yn rhan o brydau Diwrnod Diolchgarwch yn Unol Daleithiau America. Caiff pwmpenni eu cerfio yn jaclantars adeg Gŵyl Calan Gaeaf trwy'r Byd Gorllewinol.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.