Pelen neu fynen fechan a wneir o grwst choux yw proffiterol[1] (Ffrangeg: profiterole, sef ffurf fachigol ar profit, "elw") sydd yn tarddu o goginia
| Math | pwdin, crwst |
|---|---|
| Deunydd | ganache, choux pastry, hufen iâ fanila, chouquette |
| Gwlad | Ffrainc |
| Enw brodorol | profiterole |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/033nb2 |

Pelen neu fynen fechan a wneir o grwst choux yw proffiterol[1] (Ffrangeg: profiterole, sef ffurf fachigol ar profit, "elw") sydd yn tarddu o goginiaeth Ffrainc. Gellir ei ystyried yn ffurf fer, gron ar yr éclair. Melysfwyd ydyw gan amlaf yn cynnwys hufen neu gwstard, ond ceir hefyd proffiterolau gyda llenwad sawrus megis cig neu gaws.[2]
Fel arfer câi proffiterolau eu chwistrellu gyda hufen chwip neu gwstard (crème pâtissière), neu weithiau hufen iâ, a'u gweini gyda saws siocled poeth a siwgr eisin. Gellir hefyd torri'r proffiterolau mewn hanner er mwyn eu llenwi. Weithiau dodir caen o siocled neu garamel ar ben pob un proffiterol.
Adeiladir tŵr o broffiterolau i wneud croquembouche, pwdin poblogaidd i ddathlu priodasau yn Ffrainc. Defnyddir proffiterolau hefyd i wneud teisen o'r enw saint-honoré.[2]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.