Fe'i sefydlwyd gan Arglwydd William Hesketh Lever yn 1888 ar gyfer gweithwyr yn ei ffatri sebon. Prynodd ei gwmni, Lever Brothers a ddaeth yn rhan o Unilever ym 1930, 56 erw o dir ar lan deheuol yr afon ar gyfer ffatri a pentref. Gweithiodd bron 30 o benseiriau yn ystod y prosiect, ac adeiladwyd 800 o dai rhwng 1899 a 1914. Enwyd y pentref ar ôl "Sunlight", sebon golchi poblogaidd Lever Brothers.
Mae’r pentref wedi bod yn ardal cadwriaeth ers 1978. Mae dros 900 o adeiladau rhestredig gradd II. Mae dros 300,000 o bobl yn ymweld yn flynyddol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Pentref Port Sunlight ym 1999 gan gwmni Unilever.[3]
Agorwyd parc ar lan yr afon yn 2014 ar hen safle tirlenwi. Mae’r gwlyptir cyfagos yn bwysig i adar y môr. Perchnogion y parc yw yr ymddiriedolaeth tir, a rheolir y parc gan Autism Today.[4]