Pontoise yw prifddinas swyddogol départementVal-d'Oise yn régionÎle-de-France yng ngogledd Ffrainc. Er mai Pontoise yw'r brifddinas swyddogol, saif y ganolfan weinyddol, y préfecture yn nhref gyfagos Cergy, sefyllfa sy'n unigryw yn Ffrainc.
Saif Pontoise ar afon Oise, tua 30 km i'r gogledd-orllewin o ddinas Paris. Bu'r arlunydd Camille Pissarro yn byw yma am gyfnod hir, a darlunir y ddinas mewn llawer o'i weithiau. Bu Sant John Jones o Glynnog Fawr yn byw yma am gyfnod yn y 16g. Dyddia Eglwys Gadeiriol Saint-Maclou o'r 12g.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!