Heneb, a math o feddrod siambr (Saesneg: chambered tomb) sy'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig (rhwng 3,000 a 2,400 C.C.)[1] ydy beddrodd siambr Plas Newydd, i'r de o'r Plas Newydd ger Llanddaniel Fab, Ynys Môn; cyfeiriad grid SH519697. [2]
Gelwir y math yma o siambr yn feddrod siambr (lluosog: beddrodau siambr) ac fe gofrestrwyd y siambr fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: AN005.
Fe'i codwyd i gladdu'r meirw ac, efallai, yn ffocws cymdeithasol i gynnal defodau yn ymwneud â marwolaeth. Saif ar barcdir Plas Newydd ar lan Afon Menai. Ceir cerrig y brif siambr sy'n mesur 3 wrth 2.4 metr, gyda maen clo, a siambr lai gyda maen clo. Mae'r deunydd a orchuddiai'r siambrau wedi mynd gan adael y cerrig yn ynig.[3]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau