Drama lwyfan Gymraeg gan Gwyneth Glyn yw Plas Drycin a gyfansoddwyd ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru yn 2005. Roedd y ddrama ymysg cynyrchiadau cyntaf i'r Cwmni eu llwyfannu. Bu'r dramodydd yn cyd-weithio gyda'r cyfarwyddwr Valmai Jones ar y sgript. Lleolir y ddrama mewn plasty gwledig sydd ar werth.[1]
"Gan mai pwnc canolog Plas Drycin yw'r farchnad dai," yn ôl y dramodydd, "mae'r ddrama'n anorfod yn delio â chyflwr y farchnad mewn ardaloedd gwledig - ond mewn modd ysgafn tu hwnt," meddai am y ddrama sydd wedi'i lleoli mewn plasty gwledig sydd ar werth.
Cefndir byr
"Ar noson ddrycinog o fellt a tharanau mae Iorwerth, Ymgyrchydd Rhif 2 Brawdoliaeth Gweriniaeth Gwrtheyrn, yn torri i mewn i blasty sydd ar werth am bris na all pobl leol ei fforddio i osod bom yno er mwyn "deffro Cymru efo'r glec fwyaf a glywodd a erioed". Ac yntau yn dal yn y tŷ daw gwerthwr tai yno gyda chwsmer posibl. Ac fel sy'n digwydd mewn plastai ar nosonweithiau drycinog o fellt a tharanau a goleuadau'n diffodd cyrraedd rhagor o ymwelwyr annisgwyl gan gynnwys Nesta, etifedd y plas, a'i chariad seimllyd, twyllodrus a holistaidd, Tristen a'r lliwgar ac anhygoel Athro Celtaidd Rupert V Campbell sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn siarad yn amseroedd amherffaith a gorberffaith y ferf. Yr olaf i ymuno â'r cwmni brith yw cantores Geltaidd hudolus os amhersain, Gennerys, sydd hefyd yn dipyn o ddirgelwch". [2]
Cymeriadau
Mae'r cymeriadau yn cynnwys gwerthwr tai brwdfrydig, cwpl amheus sydd â diddordeb mewn prynu'r eiddo, archeolegwr ar bigau'r drain, a "llosgwr tai haf wedi drysu'n lân gyda'r sefyllfa".[1]
- Iorwerth - Ymgyrchydd Rhif 2 Brawdoliaeth Gweriniaeth Gwrtheyrn
- gwerthwr tai
- cwsmer
- Nesta - ymwelydd ac etifedd y plas
- Tristen - cariad Nesta
- Rupert V Campbell - Athro Celtaidd
- Gennerys - cantores Geltaidd
Cynyrchiadau nodedig
Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Ebrill a Mai 2005. Cyfarwyddwr Valmai Jones.[2]
Cymysg iawn oedd yr ymateb i'r cynhyrchiad. Roedd peth o'r anfodlonrwydd yn y ffaith bod y ddrama wedi'i hysbysebu fel ffars, ac fel y noda Glyn Evans yn ei adolygiad i BBC Cymru "Ond er bod rhai o'r elfennau hyn yn Plas Drycin sydd ddim yn ffars yng ngwir ystyr y gair - ni allwn, wrth wylio'r perfformiad cyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, beidio â holi fy hun ai dyma'r math o gynhyrchiad a safon y mae rhywun yn ei ddisgwyl gan ein theatr genedlaethol." [2]
Cyfeiriadau