Cantores werin a chlasurol, ac awdur ydy Phyllis Kinney (ganwyd 4 Gorffennaf 1922).[1] Mae'n enedigol o'r UDA a bu'n gantores opera broffesiynol cyn ymgartrefu yng Nghymru. Ystyrir Phyllis yn awdurdod ar ganu gwerin Cymraeg.[2]
Mae hi'n byw yng Nghymru lle dysgodd Gymraeg, ond yn dod yn wreiddiol o'r Unol Daleithiau; mae ganddi un ferch.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau am gerddoriaeth draddodiadol.[3]
Fe gyflwynwyd y llyfr Cynheiliaid y Gân fel teyrnged i'w gwaith gyda ei gŵr, y ddiweddar Meredydd Evans.[4] Cyfarfu ei gŵr yng ngwledydd Prydain, ond symudodd y ddau i gartrefu yn yr Unol Daleithiau ble roedd Merêd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth mewn athroniaeth yn Princeton.
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau