Seneddwr Rhufeinig oedd Titus Petronius Arbiter (tua 27 OC – 66 OC), a adnabyddir hefyd dan yr enwau Gaius Petronius, Gaius Petronius Arbiter a Publius Petron
| Petronius | |
|---|---|
| Ffugenw | arbiter elegantiae |
| Ganwyd | Publius Petronius Niger c. 27 Massilia |
| Bu farw | 66 o gwaediad Cumae |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd, person milwrol, bardd, athronydd, dychanwr |
| Swydd | seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, consul suffectus, seneddwr |
| Adnabyddus am | Satyricon |
| Tad | Publius Petronius |
| Mam | Plautia |
Seneddwr Rhufeinig oedd Titus Petronius Arbiter (tua 27 OC – 66 OC), a adnabyddir hefyd dan yr enwau Gaius Petronius, Gaius Petronius Arbiter a Publius Petronius Niger, ond gan amlaf yn syml fel Petronius. Ef oedd awdur y nofel ddychanol Satyricon.[1] Nid etifeddodd y cognomen (enw teuluol) "Arbiter"; yn lle hynny enillodd yr enw hwnnw fel elegantiae arbiter (hynny yw, "beirniad chwaeth") yn llys yr ymerawdwr Nero.
Ychydig a wyddys am ei fywyd y tu hwnt i'r hyn a adroddir gan Tacitus yn ei Annales XVI:18-19, er enghraifft:
Byddai'n treulio'r dydd mewn cwsg, y nos yn nyletswyddau a phleserau bywyd. Ac fel yr oedd diwydiant wedi dod ag enwogrwydd i eraill, felly yr oedd ei ddiogi wedi dod ag enwogrwydd iddo, ac nid oedd yn cael ei ystyried yn glwth ac yn warth, fel y rhan fwyaf o'r rhai sy'n ymbleseru, ond yn hytrach yn ddyn o foethusrwydd dysgedig. A pho fwyaf hamddenol a hunan-foddhaol oedd ei eiriau a'i weithredoedd, mwyaf ffafriol a gawsant fel ymddangosiad o symlrwydd.[2]
Mae Tacitus hefyd yn adrodd hanes ei farwolaeth. Ac yntau wedi’i gyhuddo o frad yn erbyn Nero, mae Petronius yn galw ei ffrindiau at ei gilydd i giniawa ac i drafod barddoniaeth a materion cain cyn iddo ladd ei hun trwy hollti ei arddyrnau.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.