Pervez Musharraf |
---|
![]() |
Ganwyd | 11 Awst 1943  Delhi  |
---|
Bu farw | 5 Chwefror 2023  o amyloidosis  American Hospital Dubai  |
---|
Man preswyl | Delhi, Karachi, Ankara  |
---|
Dinasyddiaeth | y Raj Prydeinig, Pacistan  |
---|
Alma mater | - Forman Christian College
- Pakistan Military Academy
- National Defence University
- Royal College of Defence Studies
- St Patrick's High School, Karachi

|
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, ariannwr, person milwrol  |
---|
Swydd | Arlywydd Pacistan, Prif Weinidog Pacistan, Federal Minister for Defence (Pakistan), Chief of Army Staff, Chairman Joint Chiefs of Staff Committee  |
---|
Cyflogwr | - Command and Staff College
- National Defence University
- Pakistan Army

|
---|
Plaid Wleidyddol | Pakistan Muslim League, All-Pakistan Muslim League  |
---|
Priod | Sehba Musharraf  |
---|
Gwobr/au | Sitara-i-Imtiaz, Order of Zayed, Grand Cross of the Order of Excellence, Tamgha-i-Basalat, Imtiazi Sanad, Urdd Abdulaziz al Saud, Nishan-e-Pakistan  |
---|
Gwefan | http://www.generalpervezmusharraf.com  |
---|
Gwleidydd a chadfridog Pacistanaidd oedd Pervez Musharraf (Urdu: پرويز مشرف) (11 Awst 1943 – 5 Chwefror 2023)[1] a wasanaethodd yn Arlywydd Pacistan o 2001 i 2008, a Phennaeth Staff Byddin Pacistan o 1998 i 2007. Daeth i rym yn 1999 trwy drefnu a gweithredu coup d'état milwrol ac mae wedi rhoi heibio cyfansoddiad Pacistan ddwywaith; ers hynny, mae wedi cael ei gefnogi'n ymarferol (trwy gymorth milwrol ac ariannol) gan wledydd y Gorllewin gan gynnwys yr Unol Daleithiau. Cipiodd Musharraf rym ar 12 Hydref, 1999, gan droi allan Nawaz Sharif, Prif Weinidog etholedig y wlad, cafodd wared ar y cyrff deddfwriaethol cenedlaethol a thaleithiol, cymerodd iddo'i hun y teitl o Brif Weithredwr a daeth felly'n arweinydd de facto llywodraeth Pacistan, y pedwerydd pennaeth milwrol yn hanes y wlad i wneud hynny. Yn ddiweddarach, yn 2001, apwyntiodd Musharraf ei hun i swydd Arlywydd Pacistan.
Ar 3 Tachwedd, 2007, ddyddiau yn unig cyn i Brif Lys Pacistan benderfynu ei barn ar ddeiseb a heriodd ddilysrwydd cyfansoddiadol ei ail-ethol yn arlywydd yn etholaethau dadleuol Hydref 2007, rhoddodd Musharraf heibio'r cyfansoddiad eto, arestiodd sawl barnwr a chyfreithiwr o'r Prif Lys, yn cynnwys y Prif Farnwr Iftikhar Muhammad Chaudhry, gorchmynodd arestio gwrthwynebwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr dros hawliau dynol, a chaeodd bob sianel teledu preifat. Cyhoeddodd stâd o argyfwng yn y wlad. Ymddiswyddodd Musharraf fel arlywydd ar 18 Awst 2008.
Cyfeiriadau