Aderyn sydd ddim yn medru hedfan yw Pengwin. Maent yn byw yn Hemisffer y De o Antarctica i Ynysoedd y Galapagos, ar y Cyhydedd.[1] Maent yn bwyta pysgod, cramenogion ac ystifflogod.[1] Mae'n aelod o'r urdd Sphenisciformes.
Etymoleg yr enw
Pengwyniaid Cymraeg? Mae'r rhan fwyaf o eiriaduron yn dyfynnu bod y gair pengwin yn deillio o'r term Cymraeg "pen gwyn", sy'n cyfieithu i "white head" yn Saesneg.
Ydi’r gair Saesneg PENGUIN yn tarddu o “ben gwyn” y CARFIL MAWR. Aeth y carfil mawr i ddifodant ddechrau’r 19eg ganrif trwy hela barus a didrugaredd morwyr oherwydd ei anallu i hedfan. Gairfowl oedd ei enw Saesneg ar y pryd. Tybed ai o’r gair hwn mae ein gair carfil yn dod? Ond cwestiwn arall sydd gan Ruairidh (Roddy) Mclean - ai pen gwyn y carfil mawr esgorodd ar y gair ‘pengwin’ gan forwyr Cymreig, cyn cael ei fabwysiadu am y pengwin, aderyn tebyg ei ymarweddiad ym moroedd y de? Ac ai dyma darddiad penguin yn Saesneg?[1]
Mae’r ateb yn gymhleth a diddorol ac mae Ruairidh (Roddy) Mclean yn pwyso a mesur y dystiolaeth yn deg. (Agorwch y ddolen I ddarllen ei ysgrif yn yr Aeleg). Mae ei ddadleuon i'w gweld ym Mwletin Llên Natur rhifyn 53[2]
Mae’r rhaghysbyseb i fersiwn ar-lein newydd yr Oxford English Dictionary yn dweud fel hyn:
- the earliest recorded use of penguin can be traced back to Wales. Whilst the famous flightless bird was being referred to as gare-fowl in the far north of Europe, the Welsh coined the term from two words - pen meaning head and gwyn meaning white. The first written citation is from 1577, "Infinite were the Numbers of the foule, wch the Welsh men name Pengwin & Maglanus tearmed them Geese."[3]
Dyma ddywed Geiriadur Prifysgol Cymru am "pengwin" neu "pengwyn": "benthyciad o’r Saesneg penguin; ceisir weithiau darddu'r Saesneg penguin o’r Gymraeg pen gwyn".[4]
Rhai rhywogaethau yn yr un teulu
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cyfeiriadau