Twrnamaint tenis yw Pencampwriaeth Agored Ffrainc neu Roland Garros (Ffrangeg: Les Internationaux de France neu Tournoi de Roland-Garros) sydd yn un o gystadlaethau'r Gamp Lawn. Chwaraeir ar gwrt clai yn Stade Roland Garros, Paris, pob blwyddyn ym Mai–Mehefin.