Cwmni ffasiwn rhad sydd â'i bencadlys wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Cymru, yw Peacocks. Mae'r gadwyn yn eiddo i The Peacock Group plc ac mae'n cyflogi dros 5,0
| Enghraifft o: | busnes, cwmni brics a morter |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1884 |
| Gweithwyr | 5,000 |
| Cynnyrch | dillad |
| Pencadlys | Caerdydd |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.peacocks.co.uk/ |
| Dynodwyr | |
Cwmni ffasiwn rhad sydd â'i bencadlys wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Cymru, yw Peacocks. Mae'r gadwyn yn eiddo i The Peacock Group plc ac mae'n cyflogi dros 5,000 o bobl. Mae dros 500 o siopau Peacocks yng ngwledydd Prydain ac mae dros 60 mewn 12 gwlad dramor.
Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar fod yn fasnachwr dillad ffasiwn rhad, yn gwerthu dillad ac esgidiau ar gyfer dynion, merched a phlant. Mae eu siopau'n amrywio o siopau mawr ffasiwn uwch i siopau lleol llai ar gyfer hanfodion pob dydd.
Sefydlwyd Peacocks yn Warrington ym 1884 fel busnes teuluol. Gwerthodd y Peacocks Penny Bazaar, fel yr adnabyddwyd bryd hynny, unrhyw beth a phopeth. Ymestynnodd y Peacocks Penny Bazaar dros y blynyddoedd gan agor mwy o siopau a newid eu cynnyrch i gydfynd â'r cyfnod. Cadwyd y cwni yn y teulu drwy ei basio o'r tad i'r mab.
Symudodd y cwmni yn yr 1940au i Gaerdydd, a dyna lle mae ei bencadlys yn parhau i fod hyd heddiw. Cafodd hyn yr effaith o ganolbwyntio datblygiad y brand yng Nghymru a de Lloegr am nifer o flynyddoedd. Tyfodd Peacocks ymhellach yn ystod yr 1990au, ac ym mis Rhagfyr 1999, cafodd y cwmni ei roi ar Gyfnewidfa Stoc Llundain. Cymerwydd y cwmni oddiar y gyfnewidfa ar 1 Chwefror 2006, gan ddod yn gwmni preifat unwaith eto.
Dramor adnabyddir y gadwyn fel Peacocks of London, mae gan Peacocks dros 60 o siopau etholfraint tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn Bahrain, Cyprus, Gibraltar, Gwlad Groeg, Coweit, Malta, Rwmania, Rwsia, Saudi Arabia, Slofacia, Twrci, yr Emiradau Arabaidd Unedig ac Wcráin.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.