Pêl Aur

Pêl Aur
Math o gyfrwngsports award Edit this on Wikidata
MathTlws, digwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
Label brodorolBallon d'Or Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1956 Edit this on Wikidata
Enw brodorolBallon d'Or Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.francefootball.fr/ballon-d-or/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Bêl Aur (Ffrangeg: Ballon d'Or, ynganu:  [balɔ̃ dɔʁ]) yn wobr bêl-droed flynyddol a gyflwynir gan y cylchgrawn Ffrengig France Football ers 1956. Mae'n anrhydeddu'r pêl-droediwr y bernir iddo berfformio orau dros y tymor blaenorol.

Yn wreiddiol, roedd y wobr yn cael ei hadnabod fel gwobr Pêl-droediwr Ewropeaidd y Flwyddyn, gan mai dim ond i chwaraewyr Ewropeaidd y cafodd ei dyfarnu. Ym 1995, ehangodd i gynnwys yr holl chwaraewyr a oedd yn chwarae mewn clybiau Ewropeaidd ac yn 2007 daeth yn wobr fyd-eang i bêl-droedwyr proffesiynol.

Y chwaraewr gyda'r mwyaf o Beli Aur yw Lionel Messi o'r Ariannin gydag wyth gwobr, ac yna Cristiano Ronaldo o Bortiwgal gyda phump. Ronaldo yw'r chwaraewr sydd wedi cael ei enwebu fwyaf, gyda 18 enwebiad. Rodri o Sbaen yw deiliad presennol y wobr, ar ôl ennill y wobr yn 2024.

Gwobrau yn cael eu cyflwyno yn seremoni'r Bêl Aur

Gwobrau tymhorol

Gwobr Enwyd ar ôl Gwobr gyntaf Dyfarnwyd i'r Deiliad presennol
Pêl Aur 1956 Chwaraewr gwrywaidd gorau'r tymor blaenorol Baner Sbaen Rodri (Manchester City)
Pêl Aur Merched 2018 Chwaraewraig orau'r tymor blaenorol Baner Sbaen Aitana Bonmatí (Barcelona)
Tlws Kopa Baner Ffrainc Raymond Kopa 2018 Chwaraewr gorau dan 21 y tymor blaenorol Baner Sbaen Lamine Yamal (Barcelona)
Tlws Iashin Baner Undeb Sofietaidd Lef Iashin 2019 Gôl-geidwad gorau'r tymor blaenorol Baner Yr Ariannin Emiliano Martinez (Aston Villa)
Tlws Gerd Müller Baner Yr Almaen Gerd Müller 2021 (Ymosodwr y Flwyddyn)
2022 (Tlws Gerd Müller)
Ymosodwr gorau'r tymor blaenorol Baner Lloegr Harry Kane (Bayern Munich)
Baner Ffrainc Kylian Mbappé (Paris Saint-Germain)[a]
Gwobr Sócrates Baner Brasil Sócrates 2022 Pêl-droedwyr sydd wedi gwneud gwaith dyngarol Baner Sbaen Jenni Hermoso (Tigres)
Clwb Dynion y Flwyddyn 2021 Clwb dynion sy'n perfformio orau y tymor blaenorol Baner Sbaen Real Madrid
Clwb Merched y Flwyddyn 2023 Clwb merched sy'n perfformio orau y tymor blaenorol Baner Sbaen Barcelona
Hyfforddwr Dynion y Flwyddyn 2024 Hyfforddwr gorau tîm dynion y tymor blaenorol Baner Yr Eidal Carlo Ancelotti (Real Madrid)
Hyfforddwr Dynion y Flwyddyn 2024 Hyfforddwr gorau tîm merched y tymor blaenorol Baner Lloegr Emma Hayes (Unol Daleithiau)

Gweler hefyd

Nodynau

  1. Pan enillodd Mbappé y wobr roedd yn chwarae i Real Madrid, ond rhoddwyd y wobr am ei berfformiad yn PSG y tymor blaenorol.

Cyfeiriadau

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!