Maes pêl fas Wrigley Field yn Chicago , Illinois
Gêm a chwaraeir gyda phêl yw pêl-fas (Saesneg : baseball ). Ystyrir mai dyma'r gêm genedlaethol yn yr Unol Daleithiau . Mae hefyd yn boblogaidd yn Japan , Canada , De Corea , Taiwan , Ciwba , Awstralia , Mecsico , Nicaragwa , Panama , Puerto Rico , De Affrica , yr Iseldiroedd , Gweriniaeth Dominica , yr Eidal a Feneswela .
Chwaraeir y gêm rhwng dau dîm o naw person yr un. Y nod yw taro'r bêl gyda'r bat a rhedeg i gyrraedd cynifer ag sydd modd o'r basau nes cyrraedd yn ôl i'r bas cychwynnol. Y tîm sy'n llwyddo i wneud hyn fwyaf o weithiau sy'n fuddugol.
Datblygodd y gêm fodern yn yr Unol Daleithiau, er bod ansicrwydd ynghylch ei gwreiddiau. Mae traddodiad i Abner Doubleday ei dyfeisio yn Cooperstown , Efrog Newydd , ym 1839 , er nad oes prawf o hyn. Ceir llawer o enghreifftiau cynharach o'r enw Base ball . Ffurfiwyd y clwb pêl-fas cyntaf ym 1842 yn Ninas Efrog Newydd , y Knickerbocker Base Ball Club .
Mae ffurf o'r gêm o'r enw pêl-fas Cymreig yn weddol boblogaidd yn ne Cymru, er bod rhai o'r rheolau yn wahanol i'r rheolau yn y gêm ryngwladol.