Notting Hill

Ardal ym Mwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Llundain Fwyaf, yw Notting Hill, sy'n agos i gornel gogledd-orllewinol Gerddi Kensington. Mae'n fyd-enwog a

Notting Hill
Notting Hill
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1.59 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNorth Kensington, Kensington Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5096°N 0.2043°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ245805 Edit this on Wikidata
Cod postW11, W10 Edit this on Wikidata
Map

Ardal ym Mwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Llundain Fwyaf, yw Notting Hill, sy'n agos i gornel gogledd-orllewinol Gerddi Kensington. Mae'n fyd-enwog am ei Garnifal, ac am fod yn gartref i'r farchnad stryd ar Heol Portobello.[1]

Crochendy gwneud brics yn Walmer road, yng ngogledd "Pottery Lane"

Roedd yn ardal dlawd a difreintiedig, hyd at y 1980au, ond bellach mae'n cael ei gyfrif yn ardal gefnog a ffasiynol,[2] sy'n enwog am ei dai terras enfawr, Fictorianaidd, a'i siopau a'i dai-bwyta drudfawr - yn enwedig oddeutu Westbourne Grove a Clarendon Cross. Defnyddiodd erthygl yn y Daily Telegraph yn 2004 yr ymadrodd y Notting Hill Set[3] i gyfeirio at grwp o wleidyddion Ceidwadol megis David Cameron a George Osborne a drigoodd yma'r adeg honno. Mae rhan orllewinol Notting Hill yn cynnwys ardal lle arferid gwneud brics a theils yn nechrau'r 19g, gan ddefnyddio clai'r ardal. Mae'r unig bopty sydd wedi goroesi i'w weld yn Walmer Road.[4][5] Symudodd meichiaid yma gyda'u moch, wedi iddynt gael eu gorfodi allan o ardal Marble Arch. Roedd hyn yn rhan o gynllun i "lanhau" rhannau o Lundain a alwyd yn "Potteries and Piggeries".

Carnifal Notting Hill

Carnifal Notting Hill yn 2002

Cynhelir y Carnifal yn Awst, dros gyfnod o ddeuddydd: ar y Sul a'r Llun (Gŵyl y Banc) dilynol. Mae'n ddigwyddiad blynyddol, ers 1965, [6] a chaiff ei drefnu gan y boblogaeth Garibiaidd, llawer ohonynt wedi byw yma ers y 1950au. Yn ei anterth, ymwelodd 1.5 miliwn o bobl, sy'n ei wneud yn un o wyliau mwyaf Ewrop. Cafwyd cryn sylw yn y wasg i derfysg pan ymladdwyd rhai brwydrau stryd gyda'r heddlu yn 1976,[7] wedi i'r heddlu arestio person am ddwyn. Anafwyd dros gant o'r heddlu yn y terfysgoedd a ddilynodd hynny.[8]

Cyfeiriadau

  1. "Portobello Road". London Online. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
  2. "West London". London Hotels .com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-06. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
  3. Watt, Nicholas (28 Gorffennaf 2004). "Tory Bright Young Things". The Guardian (London). http://www.guardian.co.uk/politics/2004/jul/28/conservatives.uk1. Adalwyd 18 Chwefror 2010.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-12-01. Cyrchwyd 2004-12-01.
  5. Notting Hill: Olion Llundain.
  6. 1Xtra – Black History. "1965". BBC. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
  7. Griffiths, Emma (25 Awst 2006). "Remembering the Notting Hill riot". BBC NEWS. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
  8. "Notting Hill Carnival ends in riot". BBC News. 30 Awst 1976. Cyrchwyd 7 Mehefin 2009.

Gweler hefyd

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.