Nofelydd a dramodydd yn yr iaith Rwseg o Wcráin oedd Nicolai Fassiliefits Gogol (Rwseg: Николай Васильевич Гоголь, Wcraineg: Микола Васильович Гоголь, Mykola Vassyliovytch Hohol) (20 Mawrth1809 - 4 Mawrth1852. Ei waith enwocaf yw'r nofel Eneidiau Meirwon (1842).
Ganed Gogol yn Sorotchints, Poltava, yn yr Wcráin. Symudodd i St Petersburg gyda'r bwriad o wneud gyrfa iddo'i hun mewn gweinyddiaeth. Cyhoeddodd ei waith llenyddol cyntaf, dan ffugenw, yn 1829, cerdd ramantus dan y teitl Hanz Küchelgarten, ond ni chafodd dderbyniad da.
Gweithiau
Taras Bul'ba (1835), nofel
Eneidiau Meirwon (1842), nofel
Yr Arolygydd Cyffredinol neu Yr Archwiliwr (1836), drama
Storïau byrion, yn cynnwys Dyddiadur Gwallgofddyn, Y Trwyn ac Y Gôt Fawr (1842)