Prif ddiwydiant Newlyn yw pysgota ac mae'r dref yn dibynnu ar ei harbwr. Mae Caerdydd 226.9 km i ffwrdd o Newlyn ac mae Llundain yn 414.2 km. Y ddinas agosaf ydy Truro sy'n 39.3 km i ffwrdd.
Arosodd y llong Mayflower yn Newlyn yn 1620 ar ddechrau ei mordaith i'r Amerig. Yn 1595 llosgwyd y dref gan y Sbaenwyr.
Mae'r dref yn adnabyddus am yr ysgol o artistiaid a sefydlwyd yno yn y 1880au, sy'n cynnwys y paentwyr Thomas Cooper Gotch, Albert Chevallier Tayler a Henry Scott Tuke. Ceir casgliad o'u gwaith yn Oriel ac Amgueddfa Penlee House yn Penzance.