Cyfnod a system ddaearegol ydy Neogen (Saesneg: Neogene) a grewyd gan Comisiwn Rhyngwladol ar Stratograffeg (a dalfyrir i ICS) ar linell amser daearegol. Mae'r system hon (y Neogen) yn cychwyn 23.03 ± 0.05 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac yn dod i ben tua 2.588 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Hwn ydy'r ail gyfnod yn yr Era Cenosoic (Cenozoic Era), mae'n dod ar ôl y cyfnod Paleogenaidd. Daw'r cyfnod chwarteraidd ar ei ôl yntau yn ei dro.
Mae'n cael ei rannu'n ddau israniad a elwir yn epoc: y Mïosen a'r Plïosen.
Mae'r Neogen yn rhychwantu 20 miliwn o flynyddoedd, a yn y cyfnod hwn gwelwyd mamaliaid ac adar yn parhau i esblygu i'r ffurfiau modern, fwy neu lai. Gwelwyd hefyd darddiad yr Hominidae cynnar yn Affrica, a esblygodd ymhen hir a hwyr yn Homo sapiens (neu fod dynol).
Cyfnod Neogen 23.03–2.588 miliwn o flynyddoedd yn ôl
|
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr
|
ca. 21.5 Cyfaint %[1] (108 % o lefel a geir heddiw)
|
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr
|
ca. 280 rhan / miliwn[2] (1 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
|
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb
|
ca. 14 °C[3] (0 °C uwch na'r lefel heddiw)
|
Cyfeiriadau