Monty Python's Flying Circus

Cyfres gomedi o sgetsis swreal o Loegr oedd Monty Python's Flying Circus (a elwir yn fwy cyffredinol yn Monty Python) a redodd am bedair cyfres rhwng 1969 a 197

Monty Python's Flying Circus
Monty Python’s Flying Circus

Clawr llyfr a gyhoeddwyd ym Mawrth 2017.
Crëwyd gan Graham Chapman
John Cleese
Terry Gilliam
Eric Idle
Terry Jones
Michael Palin
Serennu Graham Chapman
John Cleese
Terry Gilliam
Eric Idle
Terry Jones
Michael Palin
Carol Cleveland
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 4
Nifer penodau 45
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30-40 muned
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC1
Darllediad gwreiddiol 5 Hydref 19695 Rhagfyr 1974
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Cyfres gomedi o sgetsis swreal o Loegr oedd Monty Python's Flying Circus (a elwir yn fwy cyffredinol yn Monty Python) a redodd am bedair cyfres rhwng 1969 a 1974. Roedd y sioe yn nodedig am y steil o gomedi arbennig, a oedd yn cynnwys sgetshis gwirion ac hurt, heb linellau clo ac yn gyfuniad o hiwmor geiriol a gweledol.

Mae'n serennu Graham Chapman, John Cleese, Eric Idle, Terry Jones, Michael Palin, a Terry Gilliam. Recordiwyd y bennod gyntaf gan gwmni BBC yn Lloegr ar 7 Medi 1969 a gwelodd olau dydd am y tro cyntaf ar 5 Hydref ar BBC1, gyda 45 o benodau yn cael eu darlledu dros bedair cyfres o 1969 i 1974, ynghyd â dwy bennod ar gyfer teledu Almaeneg. Rhyddhawyd addasiad ffilm o sawl sgets, And Now for Something Totally Different, ym 1971.

Yn ôl llawer o feirniaid ffilm, roedd y gyfres yn unigryw am ei defnydd o sefyllfaoedd abswrd, a'i hiwmor llawn ensyniadau, a sgetsis heb linellau clo. Rhannwyd y sgetsys byw gydag animeiddiadau gan Gilliam, yn aml yn cyfuno gyda'r actio byw. Roedd y fformat cyffredinol a ddefnyddiwyd ar gyfer y gyfres yn dilyn ac yn ymhelaethu ar yr arddull a ddefnyddiwyd gan Spike Milligan yn ei gyfres arloesol Q..., yn hytrach na fformat y sioe sgets draddodiadol. Mae prif berfformwyr y Pythons yn chwarae'r rhan fwyaf o gymeriadau'r gyfres, gydag aelodau'r cast cefnogol gan gynnwys Carol Cleveland (y cyfeirir ati gan y tîm fel y "Seithfed Python" answyddogol, Connie Booth (gwraig gyntaf Cleese), cynhyrchydd y gyfres Ian MacNaughton, Ian Davidson, cerddor Neil Innes, a 'Fred Tomlinson a'r Fred Tomlinson Singers' am ganeuon.[1][2]

Daeth y rhaglen i fodolaeth ar ôl i’r chwe Python gyfarfod â’i gilydd yn y brifysgol, ac mewn amryw o raglenni radio a theledu yn y 1960au, gan geisio gwneud sioe gomedi newydd yn wahanol i unrhyw beth arall ar deledu gwledydd Prydain. Roedd llawer o hiwmor y gyfres yn targedu hynodion bywyd Prydain, yn enwedig bywyd proffesiynol, yn ogystal ag agweddau ar wleidyddiaeth. Mae eu comedi yn aml yn hynod ddeallusol, gyda chyfeiriadau gwallgof niferus at athronwyr a llenorion a'u gweithiau. Bwriad y tîm oedd i'w hiwmor fod yn amhosib i'w gategoreiddio, a llwyddodd mor llwyr fel y dyfeisiwyd yr ansoddair "Pythonesque" i'w ddiffinio. Nid oedd eu hiwmor bob amser yn cael ei ystyried yn briodol ar gyfer teledu gan y BBC, gan arwain at rywfaint o sensoriaeth yn ystod y drydedd gyfres e.e. sŵn rhech. Gadawodd Cleese y sioe yn dilyn y gyfres honno, a chwblhaodd gweddill y Pythons y bedwaredd gyfres derfynol, cyfres fyrrach, cyn dod â'r sioe i ben.

Daeth y sioe yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, ac ar ôl methu â denu cynulleidfa yn yr Unol Daleithiau i ddechrau, ond enillodd ei blwy ym 1974. Arweiniodd llwyddiant y rhaglen ar ddwy ochr yr Iwerydd at deithiau byw gan y Pythons a chrewyd tair ffilm ychwanegol, tra bod yr actorion unigol yn ffynnu mewn gyrfaoedd unigol. Bu Monty Python yn ddylanwad mawr ar gomedi yn ogystal ag mewn diwylliant poblogaidd. Cafodd yr iaith raglennu digidol Python ei henwi gan Guido van Rossum ar ôl y sioe.

Trosolwg o'r gyfres

Gwnaed cyfanswm o 45 pennod o Flying Circus Monty Python ar draws pedair cyfres.

Gellir gweld troed y Python Foot enwog yma yn ei gyd-destun gwreiddiol yng nghornel chwith isaf Venus, Cupid, Folly and Time gan Agnolo Bronzino, yn Oriel Genedlaethol, Llundain
Manylun o'r droed

Cynhyrchu

Cynhyrchwyd pum pennod gyntaf y gyfres gan John Howard Davies, gyda Davies yn gyfarwyddwr stiwdio, ac Ian MacNaughton yn gweithredu fel cyfarwyddwr lleoliad. O'r chweched bennod ymlaen, daeth MacNaughton yn gynhyrchydd ac unig gyfarwyddwr y gyfres. Roedd aelodau rheolaidd eraill y tîm yn cynnwys Hazel Pethig (gwisgoedd), Madelaine Gaffney (colur) a John Horton (dylunydd effeithiau fideo). Priododd Maggie Weston, a oedd yn gweithio ar golur a dylunio, â Gilliam ym 1973. Ffilmiwyd y gyfres yn bennaf mewn stiwdios yn Llundain a lleoliadau cyfagos, traethau a phentrefi yng Ngwlad yr Haf, Norwich ac ynys Jersey.

Derbyniad

Ar ôl darlledu'r bennod gyntaf, argraffodd papurau newydd gwledydd Prydain adolygiadau byr o'r rhaglen newydd. Roedd gan yr adolygwyr farn gymysg. Ysgrifennodd un fod y sioe yn "hurt a gwamal", ac nad oedd yn "cynnig dim byd newydd na chyffrous iawn".[3] Disgrifiodd un arall y sioe fel un "joyably Goonish", gan ddweud nad oedd y deunydd i gyd yn "syfrdanol" ond bod "digon dan ei sang yn y 30 munud i godi ychydig o chwerthin."[4] Roedd colofnydd y Reading Evening Post yn fwy brwdfrydig, gan alw'r sioe yn "gomedi mawr ei hangen" a nodi bod "y chwerthin go iawn, i mi, yn dod o'r cartŵn gwallgof a'r gwaith ffoto-montage".[5]

Wrth i'r gyfres barhau, daeth adolygiadau yn fwy cadarnhaol. Ar ôl y drydedd bennod, disgrifiodd colofnydd teledu’r Guardian y sioe fel “yn ddi-os, dyma uchafbwynt penwythnos llawer o wylwyr”, gan ddweud bod yr hiwmor yn “whacky" yn hytrach nag yn ddychanol. [6] Wythnos yn ddiweddarach, rhoddodd adolygydd yr Observer "argymhelliad cryf" i'r gyfres, gan ddweud "Mae'r deunydd, er gwaethaf tueddiad i ymestyn syniad da y tu hwnt i'w hyd naturiol, o safon uchel, ond yr hyn sy'n codi'r sioe allan o'r rhigol anrhydeddus [arferol] yw ei ddefnydd rhyfeddol o gartwnau animeiddiedig."[7] Fodd bynnag, nid oedd y farn gadarnhaol hon yn unfrydol o bell ffordd. Cwynodd adolygydd yr Evening Standard fod "yr wythnos diwethaf bron wedi malu fy mrwdfrydedd a'm teyrngarwch am byth drwy drosglwyddo nifer o sgits digalon nad oedd fawr mwy na slapstic amlwg." [8]

Cyfeiriadau

  1. "Fred Tomlinson, singer on Monty Python – obituary". Daily Telegraph. 2 Awst 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 15 Awst 2016.
  2. Slotnik, Daniel E. (2016-08-04). "Fred Tomlinson, Singer Who Led a 'Monty Python' Troupe, Dies at 88". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2016. Cyrchwyd 15 Awst 2016.
  3. K.A.B. (1969-10-06). "Who do they think can watch?". Coventry Evening Telegraph. t. 3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 2022-11-12.
  4. T.J.D. (6 Hydref 1969). "Play that needed a touch of Hitchcock". Leicester Mercury. t. 8. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2022.
  5. Slater, Ralph (1969-10-06). "At last! A few laughs". Evening Post. t. 2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2022.
  6. Reynolds, Stanley (20 Tachwedd 1969). "Comedy and not so funny". The Guardian. t. 6. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2022.
  7. Melly, George (26 Hydref 1969). "Watching the bits and pieces". The Observer. t. 33. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2022.
  8. Shulman, Milton (5 Tachwedd 1969). "Whatever happened to Monty Python? Well, I'm glad you asked that question..." Evening Standard. t. 21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mai 2024. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2022.

Dolenni allanol

Monty Python
Aelodau: Graham ChapmanJohn CleeseTerry GilliamEric IdleTerry JonesMichael Palin
Ffilmiau: And Now For Something Completely DifferentMonty Python and the Holy GrailMonty Python's Life of BrianMonty Python Live at the Hollywood BowlMonty Python's The Meaning of Life

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.