Monrovia yw prifddinas Liberia yng Ngorllewin Affrica. Saif ar Benrhyn Mesurado, ychydig i'r de o aber afon Sant Paul, ac mae'r boblogaeth tua 470,000. Yn ogystal â bod yn brifddinas, Monrovia yw porthladd pwysicaf y wlad.
Sefydlwyd y ddinas yn 1822,[1] a chafodd ei henw er anrhydedd i James Monroe, oedd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd.
Cyfeiriadau