Mithraeum yw teml Fithräig danddaearol a godwyd yn yr Henfyd clasurol gan Fithräyddion. Gellir dyddio'r rhan fwyaf o Mithraea rhwng 100 CC a 300 OC, yn bennaf
| Math | teml, teml Rufeinig |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02v56p |
| Thesawrws y BNCF | 30353 |

Mithraeum yw teml Fithräig danddaearol a godwyd yn yr Henfyd clasurol gan Fithräyddion. Gellir dyddio'r rhan fwyaf o Mithraea rhwng 100 CC a 300 OC, yn bennaf yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Ceir olion yr adeiladau yma mewn nifer o wahanol leoedd ar draws yr ymerodraeth. Ymddengys fod y grefydd yn arbennig o boblogaidd ymysg milwyr, ac mae llawer o'r Mithraea yn agos at wersylloedd milerol. Ogofâu naturiol oedd y Mithraea cyntaf, yna adeiladau oedd yn dynwared ogofâu. Cyfeiria hyn at fytholeg Mithras, y dywedir iddo ladd y tarw cyntefig mewn ogof. Llun o Mithras yn lladd y tarw oedd canolbwynt y temlau.
Ceir un Mithraeum yng Nghymru, Mithraeum Caernarfon, gerllaw caer Rufeinig Segontium.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.