Mae midasolam, sy’n cael ei farchnata dan yr enw masnachol Versed ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer anesthesia, tawelyddu ar gyfer triniaet
Midazolam | |
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | benzodiazepine drug |
| Màs | 325.078 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₁₈h₁₃clfn₃ |
| Clefydau i'w trin | Anhwylder gorbryder, dementia cynyrfiadol, cyflwr epileptig |
| Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
| Gwneuthurwr | Pfizer |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02_7lx |
| CAS | 59467-70-8 |
| PubChem CID | 4192 |
| ChEBI | 6931 |
| ChEMBL | Chembl655 |
| ChemSpider | 4047 |
| UNII | R60l0sm5bc |
| ATC | N05cd08 |
| KEGG | C07524, d00550 |
| Llawlyfr Ligand | 3342 |
| Rhif EC | 261-774-5 |
| Drugbank | Db00683 |
| ECHA | 100.056.140 |
| HMDB | Hmdb0014821 |
| PDB | 3u5k |
| RxNorm CUI | 6960 |
| UMLS CUI | C0026056 |
| NDF-RT | N0000147927 |
Mae midasolam, sy’n cael ei farchnata dan yr enw masnachol Versed ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer anesthesia, tawelyddu ar gyfer triniaethau, anawsterau cysgu, a chynnwrf difrifol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₈H₁₃ClFN₃. Mae midasolam yn gynhwysyn actif yn Buccolam. .[2]
Gall sgil effeithiau gynnwys gostyngiad mewn ymdrechion i anadlu, pwysedd gwaed isel a chysgadrwydd.[2] Mae'n bosibl y bydd goddefgarwch i'w heffeithiau a symptomau diddyfnu o roi'r gorau i'r cyffur yn dilyn defnydd hirdymor. Gall effeithiau paradocs, megis gweithgaredd uwch, ddigwydd yn enwedig ymhlith plant a phobl hŷn[3]. Mae tystiolaeth o risg pan gaiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ond nid oes tystiolaeth o niwed gydag un dos yn ystod bwydo ar y fron[4][5]. Mae'n perthyn i'r dosbarth bensodiasepin ac mae'n gweithio trwy'r niwrodrosglwyddydd GABA.[2]
Dechreuwyd defnyddio midazolam gyntaf ym 1976[6]. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[7] Mae midazolam ar gael fel meddyginiaeth generig ac nid yw'n ddrud iawn[5]. Mae'r gost gyfanwerthu ffiol yn y byd datblygol tua 0.35 doller UDA[8]. Mewn llawer o wledydd, mae'n sylwedd rheoledig[2].
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Mae'n gweithio trwy ysgogi cysgu, lleihau pryder, ac achosi colli'r gallu i greu atgofion newydd.[2] Mae hefyd yn cael ei ddefnyddiol ar gyfer trin ffitiau[9]. Gall midazolam gael ei weini trwy'r genau, yn fewnwythiennol, trwy chwistrelliad i mewn i gyhyr, wedi'i chwistrellu i'r trwyn, neu yn y boch.[2][9] Pan gaiff ei roi yn fewnwythiennol, fel rheol mae'n dechrau gweithio o fewn pum munud; pan gaiff ei chwistrellu i mewn i gyhyr, gall gymryd pymtheg munud i ddechrau gweithio.[2] Mae effeithiau'n para rhwng un a chwe awr[2].
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Midasolam, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.